Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sir y Fflint yn llwyddo i wrthod apêl cynllunio arall

Published: 22/07/2021

Mae Cyngor Sir Y Fflint wedi amddiffyn apêl arall yn erbyn ei benderfyniad i osod Rhybudd Gorfodi ar eiddo yn Afonwen yn llwyddiannus.

Mae’r Cyngor wedi derbyn nifer o gwynion fod y tir o amgylch yr eiddo o’r enw Tangnefedd yn cael ei ddefnyddio i storio hyd at 60 o gerbydau sydd oll yn dadfeilio i ryw raddau yn ogystal â deunydd adeiladu, peirianwaith a gwastraff cartref cyffredinol. 

Nododd swyddogion cynllunio Cyngor Sir y Fflint fod y tir yn cael effaith niweidiol ar amodau byw trigolion cyfagos ac ar yr ardal gyfagos, ac o ganlyniad ceisiwyd gweithio gyda’r tirfeddiannwr i gytuno ar gynllun gweithredu er mwyn gallu tacluso’r tir.  Ni chafodd y tir ei glirio erbyn o fewn y llinell amser benodedig a chyflwynwyd Rhybudd Adran 215 i’r tirfeddianwyr ar 17 Ionawr 2020. Gofynion y Rhybudd Gorfodi oedd: 

  1.  Gwaredu pob cerbyd anaddas i’r ffordd fawr, yn ogystal â sgrap, darnau o gerbydau, a thrugareddau mecanyddol cyffredinol. 
  2.  Gwaredu’r holl bibelli plymio, bwyleri / unedau cynhesu, peiriannau adeiladu a deunydd adeiladu. 
  3.  Gwaredu’r holl boteli nwy, seilwaith llwyfan metel, tarpolin, cypyrddau ffeilio a sbwriel cartref. 

Cyflwynodd y perchnogion apêl i’r Arolygiaeth Gynllunio.  Fodd bynnag, cytunodd yr Arolygydd â rhesymau’r Cyngor dros gyflwyno’r Rhybudd Gorfodi a chafodd yr apêl ei wrthod ond gydag estyniad i’r llinell amser hyd at chwe mis, gan roi mwy o amser i’r tirfeddiannwr gydymffurfio â’r Rhybudd. 

Dywedodd Aelod Cabinet Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Chris Bithell: 

“Unwaith eto, mae’r Cyngor wedi gwrando ar bryderon trigolion lleol ac wedi gweithredu ar y pryderon hynny.  Mae hyn yn anfon neges glir nad yw caniatáu i sbwriel, sgrap a gwastraff gasglu – hyd yn oed os yw hynny ar eich tir eich hun – yn dderbyniol pan fydd yn effeithio ar eich cymdogion. 

“Mae’r penderfyniad llwyddiannus hwn gan yr Arolygydd Cynllunio yn dangos fod Sir y Fflint yn iawn eto i ystyried pryderon trigolion lleol, ac i weithredu’n unol â hynny.” 

 

IMG_1399.JPG     

 

IMG_1401.JPG

 

IMG_1411.JPG IMG_1418.JPG