Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Bwyd a Hwyl! Mae “SHEP” Sir y Fflint yn cael ei chynnal yr haf yma! 

Published: 22/07/2021

Children play scheme image.jpgRhaglen ar gyfer ysgolion yw “SHEP”, sef Rhaglen Cyfoethogi Gwyliau’r Ysgol, a ddarperir ar hyd a lled Cymru, sy’n darparu prydau iach, addysg bwyd a maetheg, a gweithgarwch corfforol i blant mewn amgylchedd cymdeithasol hwyliog yn ystod gwyliau’r haf. Mae’r Rhaglen Cyfoethogi Gwyliau’r Ysgol Bwyd a Hwyl yn darparu: 

  • Sesiynau Addysg Bwyd a Maetheg a ardystiwyd yn genedlaethol 
  • Isafswm o Awr o weithgarwch corfforol bob dydd 
  • Brecwast a chinio iach wedi ei ddarparu gan wasanaeth arlwyo’r ysgol 
  • Sesiynau dysgu cymdeithasol a hwyliog wedi eu darparu gan staff a phartneriaid ysgolion 
  • Eleni, oherwydd cyfyngiadau Covid, ni allwn gynnig sesiynau cinio teuluol.  Mae pump o’r ysgolion yn gweithio gyda Arlwyo Newydd i ddarparu blwch ryseitiau gyda chynhwysion.  Bydd hwn yn cael ei roi i deuluoedd yn yr wythnos olaf er mwyn iddynt fwynhau gweithgareddau coginio gyda’u plant gartref. 

Dyma’r drydedd flwyddyn i’r Rhaglen Cyfoethogi Gwyliau’r Ysgol Bwyd a Hwyl gael ei darparu yn Sir y Fflint, ar ôl cychwyn yn 2018 gyda dwy ysgol. Bellach mewn chwech safle, mae pedair ysgol gynradd a dwy ysgol uwchradd yn cymryd rhan – rhai newydd a rhai presennol: 

• Ysgol Maesglas – newydd 

• Ysgol Treffynnon – presennol 

• Ysgol Uwchradd Cei Connah

• Ysgol Bryn Gwalia – newydd 

• Ysgol Bryn Garth – newydd 

• Ysgol Queensferry – presennol 

Mae’r safleoedd cynradd yn targedu’r grwp oedran 7 – 11 a’r safleoedd uwchradd yn targedu plant 10 – 12 oed.  Mae 40 lle ar bob safle ac mae’r niferoedd wedi bod yn gadarnhaol dros ben, er yr heriau a wynebir oherwydd Covid. Yn Sir y Fflint, mae’r Rhaglen Cyfoethogi Gwyliau’r Ysgol Bwyd a Hwyl yn rhedeg am bedwar diwrnod yr wythnos am dair wythnos gyntaf y gwyliau.  

Dywedodd, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint ac Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid, y Cynghorydd Ian Roberts:

“Mae hon wedi profi yn raglen llwyddiannus iawn ers ei chyflwyno yn Sir y Fflint ac rwy’n falch ei bod yn gallu cael ei rhedeg eto eleni.    Mae cynlluniau fel hon yn gwneud gwir wahaniaeth – nid yn unig drwy ddarparu dau bryd iach i blant bob dydd, ond i’w hannog i fod yn fwy egnïol, gwneud ffrindiau newydd ac ymgysylltu mwy â’r ysgol. 

“Drwy gynnwys y teulu i gyd gyda’r blwch ryseitiau gellir gwella iechyd a lles rhieni a brodyr a chwiorydd hefyd, ac mae’n annog dysgu sgiliau newydd.” 

Mae diwrnod arferol yn dechrau am 9am a gorffen am 1pm, ac yn cynnwys brecwast, gweithgareddau dysgu hwyliog, sesiynau chwaraeon ac yn gorffen gyda chinio. Mae pob cynllun Bwyd a Hwyl yn cael ei ddarparu gan gydlynwyr a phartneriaid Rhaglen Cyfoethogi Gwyliau’r Ysgol yn yr ysgol, yn unol ag ethos a diwylliant yr ysgolion. Bydd yr holl blant sy’n cymryd rhan mewn cynlluniau “Bwyd a Hwyl” yn mwynhau o leiaf un awr y dydd o weithgarwch corfforol ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau hwyliog, cymdeithasol ac addysgiadol mewn amgylchedd diogel a chyfeillgar. Mae ysgolion yn darparu’r rhaglen yn unol â’u hasesiad risg Covid presennol. 

Mae’r Rhaglen Cyfoethogi Gwyliau’r Ysgol Bwyd a Hwyl yn cael ei darparu gan ddefnyddio dull gweithredu mewn partneriaeth wedi ei gydlynu yn lleol gan Dîm Ysgolion Iach Sir y Fflint sy’n cynnwys; Ysgolion, Arlwyo Newydd, Dietegwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Hamdden a Llyfrgelloedd Aura. Mae’r holl gynlluniau Bwyd a Hwyl yn cael eu cydlynu’n genedlaethol gan CLlLC a’u ariannu’n rhannol gan Lywodraeth Cymru: ‘Gweithio gyda’n gilydd i helpu ysgolion faethu plant, hyrwyddo byw’n iach a darparu profiadau dysgu cymdeithasol yn ystod gwyliau’r ysgol.