Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Lefelau uchel o coronafeirws yn Sir y Fflint

Published: 20/07/2021

Mae tîm Profi Olrhain Diogelu Sir y Fflint yn ymateb i niferoedd uchel o achosion positif o coronafeirws ar hyn o bryd.

Yn ystod y 10 diwrnod rhwng 5 a 15 Gorffennaf 2021, cafodd 726 o bobl sy’n byw yn Sir y Fflint ganlyniadau positif mewn profion COVID-19 a chafodd 1903 o bobl eu nodi fel cysylltiadau a oedd yn gorfod hunan-ynysu. Mae mwyafrif yr achosion positif yn gysylltiedig ag ymgasglu yn y gymuned. 

Bydd y tîm TTP yn eich ffonio ar y rhif 02921961133 – gofalwch eich bod yn ateb y ffôn. 

Wrth i gyfyngiadau lacio yn raddol, mae'n hanfodol ein bod yn parhau i ddilyn y canllawiau a chofio nad yw COVID-19 wedi diflannu.  Hyd yn oed os ydym wedi cael ein brechu, mae’n rhaid i ni gyd barhau i wneud popeth o fewn ein gallu i fod yn barchus ac yn gyfrifol er mwyn cadw lefelau heintio i lawr yn Sir y Fflint a chadw ein hunain ac eraill yn ddiogel.  

Os ydych yn byw yn Sir y Fflint ac os ydych chi neu aelod o’ch teulu yn sylwi bod gennych symptomau Coronafeirws neu symptomau cyffredinol, dylech archebu prawf Coronafeirws. I wirio beth yw’r symptomau ewch i bipbc.gig.cymru/covid-19/profi-olrhain-diogelu/profi-symptomau-ehangach/cwestiynau-cyffredin-am-brofi-symptomau-ehangach/.

Mae canolfannau profi wedi’u lleoli yn:

• Neuadd Ddinesig Cei Connah 8am – 8pm (cerdded i mewn)

• Ystad Ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy 8am – 8pm (gyrru trwodd)

• Maes Parcio Stryd y Capel, Castle Heights, Y Fflint - 9.30am – 4.30pm (gyrru trwodd) 

Gallwch archebu prawf ar-lein ar llyw.cymru/cael-prawf-coronafeirws-covid-19 neu trwy ffonio 119.

Bydd canolfan brofi symudol lle gallwch gerdded i mewn iddi ar gael yng Nghanolfan Gymunedol Holway, Treffynnon o ddydd Mercher 21 Gorffennaf 2021 ymlaen

Os ydych yn dioddef o unrhyw un o’r prif symptomau COVID-19 mae’n bwysig eich bod yn cael prawf a bod pawb ar eich aelwyd yn hunan-ynysu ar unwaith nes i chi gael eich canlyniad.

Gall unrhyw un dros 11 oed sy’n byw, yn gweithio neu’n astudio yn Sir y Fflint ac sydd heb symptomau COVID-19 gael profion Dyfais Llif Unffordd (LFD) yn rhad ac am ddim.  Am fwy o wybodaeth ynglyn â pham y dylech gael prawf ac i chwilio am bwynt casglu, edrychwch ar siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Cynllunio-Rhag-Argyfwng/COVID-19-Testing.aspx.

Am fwy o wybodaeth am y cyfyngiadau presennol, edrychwch ar wefan Llywodraeth Cymru llyw.cymru/lefelau-rhybudd-covid-19.

Numbers screengrab Infonet.jpgCliciwch ar y ddelwedd i weld fideo