Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Dim ffioedd parcio yn y dref tan ddiwedd mis Medi

Published: 14/07/2021

Ataliodd y Cyngor holl ffioedd Talu ac Arddangos mewn meysydd parcio o 24 Mawrth 2020 a bydd ffioedd meysydd parcio canol tref yn parhau i gael eu hatal tan 30 Medi 2021.

Dywedodd Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd Sir y Fflint, y Cynghorydd Glyn Banks:

“Rydym wedi ymestyn yr ataliad ar ffioedd meysydd parcio canol tref ymhellach, er mwyn cefnogi gwaith y Cyngor i ailagor ein canol trefi ac annog siopwyr ac ymwelwyr i ddychwelyd a chefnogi busnesau lleol.  Bydd y cynllun hwn yn cynnig parcio am ddim wrth i ganol trefi ddechrau croesawu siopwyr yn eu holau, a bydd yn help i gynyddu’r nifer o siopwyr fydd yn ymweld â chanol trefi.”