Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Mae teithio ar fws yng Ngogledd Cymru ar fin bod yn llawer haws 

Published: 14/07/2021

O ddydd Sadwrn (17 Gorffennaf) bydd un tocyn yn ddilys ar fysiau ar draws Gogledd Cymru.  

Ar ôl i deithwyr brynu eu tocyn 1bws gan yrrwr bws ar eu taith gyntaf y diwrnod hwnnw, bydd y tocyn yn ddilys i deithio ar fysiau ar draws Gogledd Cymru. 

Cost tocyn oedolyn fydd £5.70, plentyn (neu berson ifanc gyda Fy Ngherdyn Teithio) £3.70, a bydd deiliaid pas bws gostyngol Lloegr a’r Alban hefyd yn talu £3.70.  

Mae tocyn teulu ar gael am £12. 

Un o’r rhesymau pam fod rhai yn gyndyn o roi cynnig ar ddefnyddio’r bws yw dryswch o ran pa docyn i’w brynu.  Faint mae’n gostio? Pryd gellir ei ddefnyddio?  Pwy sy’n gweithredu’r bysiau?  Fydd fy nhocyn yn ddilys?  Mae’r holl gwestiynau hyn yn rhwystro pobl rhag defnyddio'r bws. 

Mae’n ddigon hawdd gyda 1bws.  Un tocyn, am y diwrnod cyfan, yn ddilys ar holl fysiau Gogledd Cymru yng Nghonwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Ynys Môn, Wrecsam - ac ar fysiau o Ogledd Cymru i Gaer, Whitchurch a Machynlleth. 

Mae bysiau ar draws mwyafrif y rhanbarth ac mae modd crwydro Arfordir Gogledd Cymru, Eryri, Bryniau Clwyd, Dyffryn Dyfrdwy. 

Dywedodd Aelod Cabinet Sir y Fflint dros Wasanaethau Stryd, y Cynghorydd Glyn Banks:

“Rwy’n falch iawn ein bod yn cefnogi’r fenter hon, a fydd yn gymorth i annog pobl leol ac ymwelwyr i ddefnyddio ein rhwydwaith fysiau helaeth.  

“Mae’r fenter yn wych i gael pobl yn ôl ar y bysiau ac i agor cefn gwlad Gogledd Cymru am yr haf mewn modd sy’n  diogelu’r amgylchedd. 

“Mae’n enghraifft wych o fuddion gweithio mewn partneriaeth rhwng awdurdodau lleol, gweithredwyr bysiau a Thrafnidiaeth Cymru. Dyma’r tro cyntaf y bu modd i ni ddarparu a hyrwyddo un tocyn dydd sengl sydd ar gael ar bob gwasanaeth ac mae'r diolch yn ddyledus i weithredwyr mawr a bach am eu hymrwymiad i wella mynediad ar fws.”  

Mae gwybodaeth am amserlenni’r holl fysiau yng Ngogledd Cymru ar gael ar-lein ar bustimes.org neu traveline.cymru neu drwy ffonio 0800 464 00 00. 

 Mae 1Bws yn ddilys ar yr holl wasanaethau bysiau lleol sy’n gweithredu yng Ngogledd Cymru (siroedd Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Ynys Môn a Wrecsam) ac eithrio gwasanaeth 28 rhwng yr Wyddgrug a Fflint.  

Nid yw’n ddilys ar wasanaethau twristiaeth sy’n cael eu gweithredu gan fysiau gyda tho agored, ar wasanaethau coets National Express a gwasanaethau parcio a theithio.