Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ymgynghoriad ar welliannau i lwybr troed Bryn Aston A494 

Published: 13/07/2021

cycle image.jpgYn dilyn cais llwyddiannus i Lywodraeth Cymru am arian i wella llwybr troed Bryn Aston, mae Cyngor Sir y Fflint yn gwahodd preswylwyr i ddweud eu dweud ar y gwelliannau arfaethedig, y bwriedir iddynt fod o fudd i gerddwyr a beicwyr.

Mae'r cynllun yn rhan o gynnig trafnidiaeth integredig ehangach yn yr ardal leol a bydd y cynigion yn cynnwys lledu troedffyrdd, rhannu cyfleusterau beicwyr a cherddwyr, mannau croesi newydd, gwella goleuadau, ffensio a gwell arwyddion.

Dywedodd Aelod Cabinet Sir y Fflint dros Wasanaethau Stryd, y Cynghorydd Glyn Banks:

“Rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu’r cyllid inni i gyflawni’r gwaith mawr ei angen hwn. Bydd yn gwella ac yn uwchraddio'r droedffordd bresennol i gerddwyr rhwng Cylchfan Ewlo a Ffordd Aston, gan ei throi'n gyfleuster a rennir ar gyfer cerddwyr a beicwyr.

“Bydd hefyd yn gwneud yr ardal yn fwy diogel trwy adleoli man croesi ffordd ochr Hen Fryn Aston a thrwy gael gwared ar y pwynt tagfeydd lleol yn Ffordd Aston.

“Mae angen eich barn arnom i’n helpu ni i ddarparu cynllun ‘wedi’i deilwra’ sy’n diwallu anghenion y gymuned leol. Rydym am wella'r ddarpariaeth troedffordd yn y lleoliad hwn a gwneud ein rhwydwaith yn fwy diogel a gwella cysylltedd yn yr ardal leol."

Yn y sefyllfa bresennol, ni allwn gynnal digwyddiadau ymgynghori wyneb yn wyneb. Fodd bynnag, rydym am glywed eich barn am y cynigion, felly rydym yn gofyn ichi edrych ar y cynigion ar-lein yn www.siryfflint.gov.uk a chwilio am 'A494 Aston Hill SUP' lle mae holiadur byr wedi'i gynnwys ar gyfer eich sylwadau.

Os nad oes gennych fynediad at gyfrifiadur, ffoniwch i gofrestru eich barn ar: 01352 701234. Mae'r ymgynghoriad yn agor ar 16 Gorffennaf ac yn parhau tan hanner nos ar 9 Awst 2021.