Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ysgol Uwchradd Castell Alun

Published: 12/07/2021

Castull Alun extension (3 of 3) small.jpgCafodd Cynghorwyr ac uwch swyddogion Sir y Fflint daith o amgylch y bloc newydd yn Ysgol Uwchradd Castell Alun yn ddiweddar i weld sut roedd yn dod yn ei flaen.  

Mae’r Cyngor yn buddsoddi bron i £5 miliwn o’i rhaglen gyfalaf yn Ysgol Uwchradd Castell Alun, ar gyfer bloc Celf a Dylunio a Thechnoleg tri llawr, newydd a fydd yn cynnwys ystafelloedd dosbarth arbenigol gyda mannau addysgu cyffredinol, swyddfeydd a thoiledau. Mae’r prosiect hefyd yn cynnwys dymchwel y bloc technoleg presennol i greu mannau parcio ychwanegol a gosod to newydd ar yr adran gerdd bresennol.

Ers eu hymweliad diwethaf ym mis Rhagfyr, mae’r prosiect wedi elwa o gyllid ychwanegol o £475,000 gan grant atgyweirio a chynnal a chadw ysgolion Llywodraeth Cymru.

Bydd y gwaith hwn yn creu gofod addysgu newydd sy'n ysbrydoli myfyrwyr ac athrawon yn ogystal â darparu cyfleoedd cyflogaeth a dysgu i'r gymuned.  Cyfanswm y buddsoddiad yw ychydig mwy na £8.2 miliwn.

Meddai’r Cynghorydd Christine Jones, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint:

“Rwy’n croesawu’r cyllid ychwanegol hwn ar gyfer Ysgol Uwchradd Castell Alun a fydd yn ategu’r rhaglen fuddsoddi fawr hon a ariennir gan y Cyngor, sydd eisoes ar waith. Byddwn ni bellach yn gallu disodli’r Llain Pob Tywydd presennol ac ailwampio’r ardal gerdd – bydd hyn yn cwblhau’r ystod o welliannau a drefnwyd ar gyfer yr ysgol ac yn gwella darpariaeth rhannau pwysig o’r cwricwlwm, fel Addysg Gorfforol a Cherddoriaeth.”   

Castull Alun extension (2 of 3) small.jpgDechreuodd y contractwyr, Willmott Dixon, weithio ym mis Hydref 2020 ac mae disgwyl i’r gwaith gael ei gwblhau erbyn dechrau 2022. Hyd yma, mae’r gwaith wedi cynnwys gosod y sylfaeni ar gyfer yr adeilad newydd, gwaith draenio, tarmacio a gosod llinellau ar y maes parcio bysiau.

Meddai Colin Ellis, Pennaeth yr ysgol:

“Mae wedi bod yn gyffrous gweld y bloc dysgu newydd yn datblygu dros yr ychydig fisoedd diwethaf.  Mae wedi cael ei adeiladu i safon uchel a bydd yn darparu cyfleusterau modern o'r radd flaenaf a'r cyfleoedd dysgu gorau i'n dysgwyr a’r gymuned ehangach. Rwy’n edrych ymlaen at weld yr adeilad wedi’i gwblhau a dechrau ei ddefnyddio.”

Meddai Anthony Dillon, rheolwr gyfarwyddwr i Willmott Dixon yng Ngogledd Cymru: 

“Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio ochr yn ochr â Chyngor Sir y Fflint i greu'r cyfleusterau cyffrous a phwysig hyn a fydd yn rhoi'r cyfleoedd dysgu gorau oll i ddisgyblion a'r gymuned leol.

“Mae Ysgol Uwchradd Castell Alun, ei disgyblion a’r holl gymuned leol wedi bod mor groesawgar ac yn rhan fawr o'r prosiect o’r cychwyn. Rydym yn credu mewn darparu adeiladau gwych sy'n cryfhau cymunedau ac mae hwn yn brosiect a gyflawnwyd yn wir ar gyfer pobl leol gan bobl leol. Rydym wedi buddsoddi mwy na £4.9m o wariant y prosiect hyd yma gyda phartneriaid cadwyn gyflenwi leol, yn ogystal â chreu cyfleoedd cyflogaeth lleol newydd.”

Castull Alun extension (1 of 3) small.jpg

Yn y llun o’r chwith i’r dde: Damian Hughes – CSFf, y Cyng Gladys Healey, gweithiwr Willmott Dixon (WD), Eloise Winkworth – Disgybl Blwyddyn 10, Aled Roberts – WD, Colin Ellis – Pennaeth, gweithiwr (WD), Jayden Munetsi – Disgybl Blwyddyn 10, gweithiwr (WD), Idris Williams – Llywodraethwr Ysgol Uwchradd Castell Alun, gweithiwr (WD), Claire Homard - CSFf, gweithiwr (WD), y Cyng Christine Jones