Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Pwyntiau casglu newydd ar gyfer pecynnau profion llif unffordd COVID-19

Published: 07/07/2021

Keeping Flintshire safe.jpgBydd pobl ar draws Sir y Fflint bellach yn gallu cael pecynnau profion llif unffordd (‘lateral flow’) COVID-19 am ddim i’w gwneud gartref o sawl lleoliad ar draws y sir.

Nid yw tua 1 o bob 3 o bobl sydd â’r coronafeirws yn dioddef unrhyw symptomau ond maent yn dal i allu heintio pob eraill.

Profi’n rheolaidd yw’r unig ffordd o wybod a yw’r feirws gennych chi. Os yw pobl yn profi’n bositif ac yn hunan-ynysu, mae’n helpu i atal y feirws rhag lledaenu. 

Bydd profion llif unffordd ar gael i’w casglu o’r llyfrgelloedd Aura a’r canolfannau hamdden Aura canlynol o heddiw (07/07/2021) ymlaen.

Llyfrgell Brychdyn (CH4 0QQ): Llun a Mercher 9am–1pm a 2pm–5pm / Iau 2pm–6pm / Gwener 2pm–5pm / Sadwrn 9am–1pm.

Llyfrgell Bwcle (CH7 2EF): Llun, Mercher a Gwener 9am–5pm / Mawrth ac Iau 9am–6pm / Sadwrn 9am–1pm.

Llyfrgell Cei Connah (CH5 4HA): Llun a Mawrth 9am–6pm / Mercher, Iau a Gwener 9am–5pm / Sadwrn 9am–1pm.

Llyfrgell y Fflint (CH6 5AP): Llun, Mercher a Gwener 9am–5pm / Mawrth ac Iau 9am–6pm / Sadwrn 9am–1pm.

Llyfrgell Treffynnon (CH8 7UZ): Llun, Mercher, Iau a Gwener 9am–5pm / Mawrth 9am–6pm / Sadwrn 9am–1pm.

Llyfrgell yr Wyddgrug (CH7 1AP): Llun ac Iau, 9am–6pm / Mawrth, Mercher a Gwener 9am–5pm / Sadwrn 9am–1pm. 

Gwasanaeth y Llyfrgell Deithiol – dilynwch y ddolen yma am ddyddiadau ac amseroedd ymweliadau. 

Pafiliwn Jade Jones, y Fflint (CH6 5ER): Sul 1pm–4pm. 

Mae profion COVID-19 cyflym ar gael am ddim yn eich fferyllfa nawr.  Darganfyddwch a yw fferyllfa yn eich ardal chi yn cynnig y gwasanaeth hwn. https://llyw.cymru/cael-profion-llif-unffordd-covid-19-cyflym-os-nad-oes-gennych-symptomau  

  • ddydd Llun 12 Gorffennaf, ni fydd y lleoliadau profi COVID-19 ar Stad Ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy a Neuadd Ddinesig, Cei Connah yn cynnig gwasanaeth casglu pecynnau profion llif unffordd. Bydd y safleoedd hyn yn agor ar gyfer profion PCR yn unig o 8am-8pm, saith niwrnod yr wythnos.

Mae’r pwyntiau casglu newydd yma’n ychwanegol at: 

Swyddfeydd Sir y Fflint yn Cysylltu:  Llun–Gwener, 9am–4.30pm. 

• Bwcle (CH7 2EF)

• Cei Connah (CH5 4HA)

• Y Fflint (CH6 5BD)

• Treffynnon (CH8 7TD)

• Yr Wyddgrug (CH7 1AP)

Gall y profion llif unffordd roi canlyniadau mewn tua 30 munud.  Mae cyfarwyddiadau i ddefnyddio’r profion a chofnodi’r canlyniadau wedi’u cynnwys gyda’r pecynnau.

Os nad ydych chi’n gallu mynd i gasglu’r pecynnau, gallwch eu harchebu nhw i gael eu danfon i’ch cartref ar https://llyw.cymru/cael-profion-llif-unffordd-covid-19-cyflym-os-nad-oes-gennych-symptomau 

Peidiwch â defnyddio prawf llif unffordd os oes gennych chi unrhyw rai o brif symptomau COVID-19: peswch newydd, parhaus, gwres, colli neu newid i’ch gallu i arogli neu blasu. Hunan-ynyswch ar unwaith (ynghyd â gweddill eich aelwyd) a threfnwch brawf PCR ar https://www.gov.uk/get-coronavirus-test

Gallwch hefyd gael prawf PCR am ddim os oes gennych chi ystod ehangach o symptomau’r ffliw, heb orfod hunan-ynysu tra byddwch chi’n disgwyl am y canlyniad. Mae mwy o wybodaeth am y symptomau ehangach ar https://bipbc.gig.cymru/covid-19/profi-olrhain-diogelu/profi-symptomau-ehangach/cwestiynau-cyffredin-am-brofi-symptomau-ehangach/