Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Chyllideb 2022/23 

Published: 06/07/2021

Money small.jpgGofynnir i Aelodau’r Cabinet adolygu’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Chyllideb 2022/23 yn ei gyfarfod ddydd Mawrth 13 Gorffennaf.

Mae’r Cyngor yn adolygu ac yn diweddaru’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig yn flynyddol, a chyn cynllunio’r gyllideb flynyddol ar gyfer y flwyddyn ariannol ddilynol.

Mae’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig yn rhagweld yr adnoddau fydd y Cyngor ei angen i fodloni ein sail costau sy’n newid yn gyson, ar gyfer y blynyddoedd i ddod. Mireinio ein rhagolygon yw’r cam cyntaf i gynllunio ein gofynion cyllidebol ar gyfer y flwyddyn ariannol canlynol. Mae’r rhagolwg diwygiedig yn dangos ein bod yn debygol o gael isafswm gofyniad cyllidebol o £16.750m ychwanegol o adnoddau refeniw ar gyfer 2022/23. 

Dywedodd Paul Johnson, Aelod Cabinet Cyllid, Gwerth Cymdeithasol a Chaffael Sir y Fflint:

“Dyma’r cam cyntaf o ddatblygu ein cyllideb ar gyfer 2022/23. Yn ystod mis Medi a Hydref, bydd Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu yn cael eu gwahodd i adolygu’r pwysau costau, a’r cyfleoedd ar gyfer rheoli cost ac effeithlonrwydd, o dan eu cylch gorchwyl.

“Rydym oll yn ymwybodol, ar ôl degawd o dan-gyllido llywodraeth leol, nad oes gennym arbedion costau o raddfa ar ôl, ac fel Cyngor, rydym wedi glynu at yr egwyddor na fyddwn yn lleihau cyllideb ar gyfer unrhyw wasanaeth i’r pwynt lle fydd y gwasanaeth yn anniogel. Wrth wneud hynny, ni fyddwn yn bodloni ein safonau ansawdd a/neu’n methu diwallu ein dyletswyddau statudol.”

Unwaith fydd y gwaith hwn wedi’i gwblhau, bydd y Cyngor mewn safle cryf i gyfathrebu i Lywodraethau, partneriaid lleol a budd-ddeiliaid a’r cyhoedd sut fydd cyllideb gytbwys, gyfreithiol a diogel yn cael ei gyflawni ar gyfer 2022/23. Mae ymgysylltiad eisoes yn digwydd gyda Llywodraeth Cymru trwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) ac ar wahân.

Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint, Colin Everett:

“Rydym hefyd wedi penderfynu na ddylai cynnydd blynyddol yn Nhreth y Cyngor fod yn fwy na 5%. Dylai’r ffigwr hwn gael ei drin fel uchafswm ac nid fel hawl i godi incwm lleol. Mae Treth y Cyngor mewn perygl o ddod yn anfforddiadwy ar gyfer lleiafrif cynyddol, ac mae’r Cyngor hwn yn credu y dylai’r Llywodraethau fod yn gyfrifol am gyllid llawn a theg ar gyfer llywodraeth leol angen, ac nid talwyr treth lleol.”

Felly, bydd angen i Setliad Llywodraeth Leol ar gyfer 2022/23 – a osodir ac ariennir gan Lywodraeth Cymru – fod yn ddigonol.