Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Y wybodaeth ddiweddaraf ynglyn â diwygio'r gyfundrefn les

Published: 07/07/2021

Bydd gofyn i aelodau’r Cabinet i gefnogi’r gwaith parhaus i reoli’r effeithiau mae diwygio’r gyfundrefn les yn ei gael ac yn parhau i gael ar aelwydydd mwyaf diamddiffyn Sir y Fflint, pan y byddant yn cyfarfod ddiwedd mis yma.

Mae Sir y Fflint, ynghyd â’i bartneriaid, wedi bod yn gweithio i leddfu’r effeithiau llawn y mae diwygio’r gyfundrefn les yn ei gael ar breswylwyr mwyaf diamddiffyn Sir y Fflint sydd wedi cael eu heffeithio yn sylweddol gan Covid-19.  

Ar hyn o bryd, mae cyfanswm o 515 o aelwydydd yn Sir y Fflint sy’n parhau i hawlio budd-dal tai wedi cael eu heffeithio gan y “Dreth Ystafelloedd Gwely” sy’n cynrychioli cyfanswm didyniad mewn budd-daliadau o tua £9,200 yr wythnos neu tua £480,500 y flwyddyn. Mae’n rhaid i’r tenantiaid yma ddod o hyd i’r arian ychwanegol yma i dalu eu rhent.  Mae mynegiant o’r nifer o denantiaid sydd wedi eu heffeithio sy’n derbyn Credyd Cynhwysol i’w weld yn y nifer sy’n cael eu cefnogi drwy daliad Tai yn ôl Disgresiwn, a oedd yn 577 yn 2020/21.

Ym mis Mai 2021, roedd 26 o aelwydydd yn Sir y Fflint yn ddarostyngedig i leihad yn eu budd-dal tai neu Gredyd Cynhwysol o ganlyniad i’r uchafswm budd-daliad sydd wedi ei osod. Mae hyn yn gyfanswm o golled incwm o tua £1,618 y flwyddyn i’r preswylwyr yma.

Ym mis Chwefror 2021 roedd y llwyth achosion ar gyfer cwsmeriaid yn Sir Y fflint a oedd yn derbyn Credyd Cynhwysol wedi cynyddu i 11,983 o’i gymharu â 9,798 ym mis Ebrill 2020 – cynnydd o 22%. 

Nid yw’r model “Help i Hawlio” a symudodd y cymorth ar gyfer Credyd Cynhwysol i Cyngor ar Bopeth yn cynnwys cefnogaeth bersonol ar sut i reoli arian, ac ond ar gael i gwsmeriaid hyd at y dyddiad yr oeddent yn derbyn eu taliad cyntaf Credyd Cynhwysol llawn. Oherwydd hyn, mae Tîm Diwygio Lles y Cyngor yn parhau i gefnogi ein preswylwyr.

Ers Ebrill 2020 mae’r ddarpariaeth wedi symud i ganolfan alwadau cenedlaethol sy’n gweithredu trwy wasanaeth ffôn. Ers dechrau’r Credyd Cynhwysol, mae’r Cyngor wedi gweld galw mawr am wasanaethau yn ymwneud â rheoli cyllidebau aelwydydd, llywio’r system Credyd Cynhwysol ar-lein a chefnogi cwsmeriaid i ddeall eu ceisiadau a herio ble bo angen.

Mae’r gwasanaethau cymorth eraill mae’r Cyngor yn ddarparu yn cynnwys:

  • Mae’r Tîm Diwygio Lles yn cyfuno gweinyddu taliadau tai yn ôl disgresiwn gyda chefnogaeth gyllidol gyffredinol a chefnogaeth gyfannol i bob cwsmer os ydynt wedi eu heffeithio gan y diwygiadau i’r gyfundrefn lles. 
  • Cynigir a darperir cymorth i breswylwyr sy’n cael trafferth aildrefnu eu harian. Fel ran o’r ymdrech i ddilyn dull cyfannol o gefnogi preswylwyr, mae trefniadau i weithio mewn partneriaeth ac ar y cyd wedi eu creu gyda sefydliadau fel Cymru Gynnes a Chyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint. Mae gweithio gyda, a datblygu partneriaethau yn allweddol i gael y canlyniadau gorau i’n preswylwyr.
  • Mae Sir y Fflint yn rheoli a chydlynu gwaith y Bartneriaeth Trechu Tlodi. Mae gan y grwp gynrychiolwyr o bob sector a’i nod yw cydlynu, dylanwadu a, ble yn bosib, alinio’r ddarpariaeth cynghori yn y sir, er mwyn lleihau'r effaith negyddol mae’r diwygiad i’r gyfundrefn les yn ei gael, adnabod yr angen o fewn cymunedau a chefnogi ein preswylwyr trwy fynd i’r afael â thlodi a hyrwyddo lles.

Dywedodd Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol ac Asedau Sir y Fflint, Billy Mullin:

“Mae’r sefyllfa Covid-19 wedi achosi i fwy o breswylwyr brofi effeithiau negyddol ar eu sefyllfa ariannol. Bydd Sir y Fflint yn parhau i gefnogi preswylwyr mewn unrhyw ffordd y gallent. Mae’r gwasanaeth wedi cael ei addasu i ddarparu cefnogaeth les dros y ffôn sydd wedi golygu fod modd i’r gwasanaeth ymateb yn sydyn i’r cynnydd yn y nifer o atgyfeiriadau. 

“Mae cynnydd o 13% wedi bod mewn atgyfeiriadau am gefnogaeth o’i gymharu â 19/20 i 20/21. Tybiwn fod y cynnydd yma oherwydd effeithiau’r pandemig.

“Mae’r gwaith a’r gefnogaeth yma nawr yn allweddol, a bydd yn darparu cyfle i adlewyrchu ar effeithiolrwydd y gefnogaeth a’r partneriaethau.  Yn ei dro, bydd hyn yn eu galluogi i fod ar gael ac ymateb mewn ffordd hyblyg i faterion newydd yn y dyfodol.”