Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ffioedd gwresogi ar y cyd 2021

Published: 07/07/2021

Mae Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn cyfarfod ar 13 Gorffennaf lle bydd gofyn i’r Aelodau gymeradwyo newidiadau i’r ffioedd gwresogi ar hyn o bryd ar gyfer tai cyngor sydd â chynlluniau gwresogi ar y cyd.

Ar draws Sir y Fflint, mae wyth o gynlluniau gwresogi ar y cyd. Mae’r Cyngor yn trafod i gytuno ar brisiau tanwydd ymlaen llaw ac mae’r tenantiaid yn elwa o gyfradd Contract Diwydiannol a Masnachol y Cyngor. Y Cyngor sy’n talu am y tanwydd yn y lle cyntaf cyn casglu tâl amdano gan denantiaid, gyda'r nod o adennill y costau a dim mwy ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol. Mae ffioedd gwresogi ar gyfer defnyddio tanwydd yn seiliedig ar ddefnydd y llynedd.

Bu gostyngiad yn ffioedd gwresogi ar y cyd y mwyafrif o denantiaid yn 2020/21. Felly yn yr eiddo lle bu cynnydd yn yr ynni a ddefnyddiwyd, mae hyn yn wedi arwain at ddiffyg bychan yn y gronfa gwresogi wrth gefn. Bydd hyn yn cael ei adennill trwy ffioedd 2021/22.

Meddai’r Cynghorydd Dave Hughes, Aelod Cabinet Tai Cyngor Sir y Fflint:

“Mae ein gwaith arbed ynni’n helpu i gadw unrhyw gynnydd angenrheidiol mor isel â phosib'.  Rydw i’n falch ein bod yn gallu cynnig gostyngiad i’n costau gwresogi i’r rhan fwyaf o’n tenantiaid. 

“Mae gwerthusiad o ddewisiadau yn cael ei gynnal ym mhob un o’n heiddo cymunedol er mwyn asesu cyflwr ac effeithlonrwydd y systemau gwresogi, a bydd cynllun yn cael ei roi ar waith ar gyfer gwelliannau a gwaith uwchraddio dros y blynyddoedd sydd i ddod.”

Bydd yr holl newidiadau yn dod i rym ar 31 Awst 2021.