Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


5 Gorffennaf, 2021 – diwrnod i ddweud diolch

Published: 05/07/2021

Keeping Flintshire safe.jpgMae 5 Gorffennaf yn ddyddiad pwysig bob amser, dyma ben-blwydd y GIG. Ond eleni mae’n fwy arbennig fyth – mae hefyd yn nodi’r diwrnod cyntaf i ddathlu Gweithwyr y GIG, Gofal Cymdeithasol a’r Rheng Flaen.

Dros 70 mlynedd ar ôl creu’r GIG, cawsom ein hunain yn delio â phandemig byd-eang. Bu gweithwyr y GIG, ynghyd â nifer o weithwyr allweddol o’r gwasanaethau brys a chynghorau lleol, yn ogystal ag athrawon, gweithwyr siopau a gwirfoddolwyr, yn hanfodol wrth gadw ein bywydau a’r wlad i fynd.

Dyma ein cyfle ni i ddiolch i bob un o’r gweithwyr allweddol, beth bynnag fo’u proffesiwn, a chofio’r rhai a gollodd eu bywydau i Covid-19.

Trwy gydol y dydd, bydd dwy ffordd i chi nodi’r achlysur a dangos diolch a pharch.

11am – dau funud o dawelwch

Er mai diwrnod i ddathlu yw hwn, mae’n bwysig cofio’r rhai a fu’n gweithio i ddarparu gwasanaethau allweddol ar y rheng flaen ac a gollodd eu bywydau wrth wasanaethu eraill.

Trwy’r wlad, ar ôl y tawelwch, caiff Y Caniad Olaf a Reveille eu chwarae.

Yn ystod y tawelwch, fe’n hanogir hefyd i dreulio amser i gofio ysbryd arwrol Capten Syr Tom Moore, ysbrydoliaeth yn ystod y cyfnod hwn na welwyd ei debyg o’r blaen, a gododd fwy na £32 miliwn o nawdd ar gyfer NHS Charities Together (yn ogystal â chodi ein calonnau).

8pm – clapio ein harwyr 

Wrth agor ein drysau ar nosweithiau Iau trwy’r cyfnod clo, gallem glywed ein cymunedau’n clapio i ddangos eu gwerthfawrogiad i weithwyr a gofalwyr y GIG.

Ar y diwrnod cyntaf erioed hwn i ddathlu Gweithwyr y GIG, Gofal Cymdeithasol a’r Rheng Flaen, beth am i ni gymeradwyo pob un o’r bobl hynny sy’n dal i achub bywydau a chadw gwasanaethau hanfodol i fynd?

Dywedodd Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint, y Cynghorydd Christine Jones:

“Mae wedi bod yn 18 mis heriol ac anodd iawn i bob un ohonom ni ac rydym ni’n fwy diolchgar nag erioed, nid yn unig i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a’r holl bobl sy’n gweithio ynddo, ond hefyd i’r llu o weithwyr gofal sydd allan yn ein cymunedau’n darparu gofal a chymorth gwerthfawr i’r rhai ohonom sydd ei angen fwyaf. 

 “Yn ogystal â dangos fy ngwerthfawrogiad heddiw, byddaf hefyd yn cymryd ennyd i gofio am y rhai sydd wedi ein gadael ni.  Gobeithio y gwnewch chi ymuno â mi.” 

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan diwrnod dathlu Gweithwyr y GIG, Gofal Cymdeithasol a’r Rheng Flaen.