Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Rhoi gwybod i Crimestoppers am werthu cynhyrchion dan oed yn anghyfreithlon

Published: 29/06/2021

CST0002-04-Age-Restricted-Sales-1200x900px-Facebook-ENG+WEL-AW (002).jpgGall trigolion a busnesau ledled Cymru sy'n credu bod rhywun wedi prynu neu werthu cynhyrchion dan gyfyngiadau oedran i berson dan oed hysbysu Crimestoppers yn ddienw erbyn hyn.

Mae Safonau Masnach Cymru a'r elusen Crimestoppers wedi ymuno i ddarparu gwasanaeth sy'n galluogi aelodau o'r cyhoedd i ddarparu gwybodaeth werthfawr yn ddienw i helpu i gadw cymunedau'n ddiogel ac yn iach.

Dyma'r mater diweddaraf y mae'r ddau sefydliad yn gweithio arno i annog aelodau o'r cyhoedd i drosglwyddo gwybodaeth am bryderon a allai fod ganddynt, yn gwbl ddienw.

Mae cynhyrchion cyfyngedig oed yn cynnwys:

  • Alcohol
  • Cynhyrchion tybaco gan gynnwys sigaréts, tybaco, papurau sigaréts a sigarennau
  • E-sigaréts
  • Tân gwyllt
  • Cyllyll, llafnau cyllyll, llafnau ymyl agored, bwyeill
  • Glud, aerosolau, hylifau glanhau domestig, hylifau glanhau sych, glanhawyr a theneuwyr paent.

Dywedodd Helen Picton, Cadeirydd Safonau Masnach Cymru: "Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Crimestoppers ac yn cynnig ffordd i aelodau'r cyhoedd allu rhoi gwybod am y troseddau hyn yn ddienw.

"Mae isafswm oedran prynu’n berthnasol i’r cynhyrchion dan gyfyngiadau oedran gan eu bod yn cael eu hystyried yn niweidiol i blant a phobl ifanc yn eu harddegau.

"Nid yn unig y mae gwerthu'r cynhyrchion hyn yn drosedd, ond maent hefyd yn niweidio lles ein plant ac yn tarfu ar gymunedau."

Os ydych chi'n credu bod rhywun wedi prynu neu werthu cynhyrchion dan gyfyngiadau oedran i berson dan oed yna rhowch wybod i Crimestoppers ar 0800 555 111 neu ewch i http://crimestoppers-uk.org a dywedwch wrthyn nhw beth rydych chi'n ei wybod. Gall eich gwybodaeth helpu i gadw cymunedau ledled Cymru'n ddiogel.