Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


 Sir y Fflint yn barod am haf llawn hwyl

Published: 30/06/2021

Children play scheme image.jpgMae cynlluniau chwarae yr haf Sir y Fflint yn paratoi ar gyfer haf llawn hwyl diogel.

Bydd y cynlluniau yn cael eu rhedeg gan Dîm Datblygu Chwarae y Cyngor mewn partneriaeth â chynghorau tref a chymuned lleol, Gwasanaeth Anabledd Teuluoedd Sir y Fflint a Llywodraeth Cymru.

Mae’r cynlluniau chwarae yn cychwyn ar draws y sir Ddydd Llun 19 Gorffennaf (dydd Llun i ddydd Gwener).  Mae’r holl sesiynau am ddim ac ar gyfer blant 5 – 12oed. 

Bydd rheoliadau Covid-19 yn eu lle ar y safle, gan gynnwys gorsafoedd diheintio dwylo wrth gyrraedd. 

Rhaid cofrestru o flaen llaw (ar-lein) ar gyfer yr holl leoliadau, a 30 fydd yr uchafswm o blant ym mhob sesiwn.  

Mae gwybodaeth lawn a ffurflenni caniatâd rhieni / gofalwyr ar gael rwan ar wefan Cyngor Sir y Fflint: Cynlluniau Chwarae’r Haf o 1 Gorffennaf 2021.  Mae cymorth i gwblhau’r ffurflenni ar gael drwy gysylltu â’r Tîm Datblygu Chwarae. 

Bydd cynlluniau chwarae yn rhedeg am 3,4,5 neu 6 wythnos – gwiriwch y wefan am fwy o fanylion. 

Fel yn y blynyddoedd blaenorol, bydd cynllun Cyfeillio Sir y Fflint yn rhan hanfodol o’r ddarpariaeth hon, ac yn darparu cymorth 1 – 1 i blant sydd ag anableddau. 

I gael rhagor o fanylion, cysylltwch â:-

Janet Roberts, Swyddog Datblygu Chwarae Sir y Fflint 

Ffôn Symudol 07518602614    e:bost: Janet.Roberts2@flintshire.gov.uk