Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cefnogi pobl ifanc yn parhau ar-lein

Published: 16/06/2021

Intuitive Thinking Skills.jpgMae Tîm Dilyniant Sir y FFlint yn cynnig darpariaeth addysgol i bobl ifanc yn Sir y Fflint sy’n ei chael yn anodd dilyn y llwybrau cymwysterau mwy traddodiadol.  Mae gan lawer o’r unigolion sydd wedi’u hatgyfeirio atom gofnodion presenoldeb gwael neu mewn rhai achosion, mae’n bosibl eu bod wedi’u gwahardd o’r ysgol. 

Er gwaethaf yr heriau a gyflwynir gan Covid-19, mae’r tîm wedi parhau i weithio gyda'r bobl ifanc hyn sy'n anodd eu cyrraedd trwy ddysgu ar-lein.

Mae’r tîm wedi cydweithio gyda Intuitive Thinking Skills – sefydliad cenedlaethol dan arweiniad cyfoedion sy’n darparu atebion eraill i bynciau sy’n aml yn cael eu hystyried yn gymhleth.  Mae’r themâu craidd yn canolbwyntio ar newid ymddygiadol, agwedd, iechyd meddwl, cyffuriau ac alcohol ac ail-gysylltu gydag addysg. Ar ôl cwblhau’r cwrs, mae’r unigolion yn cael cymhwyster a gydnabyddir gan ddiwydiant.

Dywedodd un o’r tiwtoriaid cyfoedion yn Sir y Fflint:

“Mae gorfod symud ar-lein wedi achosi rhai heriau wrth gysylltu â’r bobl ifanc hyn, fodd bynnag, mae nifer wedi ymateb yn dda iawn ac rydym wedi addasu'r dull cyflwyno – mae rhai yn disgleirio mewn grwp tra bod eraill yn dymuno cael sesiynau un i un.  Mae’r sesiynau hyn wedi eu teilwra i'w anghenion unigol.”

Dyma beth ddywedodd rai o’r bobl ifanc:

“Ers cwblhau’r cwrs, rwyf wedi sylwi ar newid mawr yn fy ysgogiad, mae hefyd yn caniatáu i bobl ddysgu yn eu ffordd eu hunain.”

“Bu i’r cwrs ddangos i mi nad yw bob math o ddysgu yn ddiflas.”

“Roedd y cwrs hwn yn hwyliog ac yn ddiddorol. Byddwn wrth fy modd yn gwneud y cwrs eto!"

Ochr yn ochr â’r rhaglen hon mae'r tîm hefyd yn cynnal rhaglen gyflogadwyedd People Plus sy’n cyflwyno Tystysgrif Sgiliau Cyflogadwyedd City & Guilds sy'n cynnwys pynciau megis cyfathrebu, rheoli amser a chynllunio ariannol.

Meddai’r Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint ac Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid:

“Mae’r gwaith mae'r tîm yn ei wneud gyda’u partneriaid yn amhrisiadwy i’r bobl ifanc hyn.  Mae’n eu helpu i ddod o hyd i’w lle yn y byd a datblygu eu hyder, hunan-barch a sgiliau cymdeithasol.

“Mae’r rhain a rhaglenni eraill yn cael eu rhedeg trwy dîm Cynhwysiant a Datblygiad Cyngor Sir y Fflint, sy’n gwneud gwaith gwych o ran ymgysylltu â phobl ifanc anodd eu cyrraedd.”