Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Mae amser yn prinhau! Sesiynau Gwybodaeth a Chymorth ar Y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE (EUSS)

Published: 11/06/2021

EUSS both.pngMae amser yn prinhau i ddinasyddion yr UE, Ardal Economaidd Ewropeaidd (AAE) neu’r Swisdir, a’u teuluoedd geisio i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog (EUSS) erbyn 30 Mehefin 2021!  

Os nad yw unigolion sydd angen cofrestru yn gwneud hynny cyn 30 Mehefin, gallant golli eu hawl i fyw a gweithio yn y DU a chael mynediad at wahanol wasanaethau cyhoeddus a chymorth.  

Oes angen cyngor am ddim, annibynnol a chyfrinachol arnoch chi neu ddefnyddwyr eich gwasanaeth?  

Mae ystod o wasanaethau cynghori am ddim, annibynnol a chyfrinachol ar gael i bawb yn cynnwys gan Cyngor ar Bopeth, Mind Cymru, Newfields Law, Settled a TGP Cymru. 

Ymunwch â’n gweminarau mynediad agored am ragor o wybodaeth ynghylch y Cynllun EUSS a’r gefnogaeth sydd ar gael i geisio am statws cyn-sefydlog a statws sefydlog. Cliciwch ar y dolenni yn y gwahoddiad amgaeedig neu isod:

Dydd Mercher, 16eg Mehefin, 1:00 PM-2:00 PM

Cliciwch yma i gofrestru

Dydd Iau, 24ain Mehefin, 1:00 PM-2:00 PM

Cliciwch yma i gofrestru

E-bostiwch wgprojects@citizensadvice.org.uk os oes angen cymorth pellach arnoch.