Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ymgynghoriad Papur Gwyn Llywodraeth Cymru – Ailgydbwyso Gofal a Chymorth

Published: 10/06/2021

Bydd gofyn i aelodau Cabinet Sir y Fflint adolygu ymateb Sir y Fflint i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ailgydbwyso gofal a chymorth pan fyddant yn cyfarfod nesaf, ddydd Mawrth 15 Mehefin.

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ceisio safbwyntiau awdurdodau lleol ar gynigion i gyflwyno deddfwriaeth newydd sy’n mynd i’r afael â chymhlethdod y prosesau comisiynu lleol cyfredol, ac yn ailganolbwyntio blaenoriaethau o ran comisiynu gofal a chymorth.

Mae’r Papur Gwyn yn bwriadu ailgydbwyso’r farchnad gofal a chymorth ar sail fframwaith cenedlaethol clir lle mae gwasanaethau’n cael eu trefnu’n rhanbarthol a'u darparu'n lleol. 

Y prif bwnc trafod yw a fydd yr hyn a gynigir yn y Papur Gwyn yn cyflawni’r canlyniadau a fwriedir, a barn Sir y Fflint yw na fydd yn gwneud hynny.  Y mae angen newid pellach, ond nid y newid a awgrymir yn y Papur Gwyn. 

Dylai newidiadau yn y dyfodol ganolbwyntio ar y ffordd orau o ddarparu systemau iechyd a gofal cymdeithasol integredig sydd wedi’u gwreiddio mewn cymunedau lleol.  Mae Sir y Fflint, ar y cyd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, wedi dangos sut y gellir cyflawni hyn drwy gydweithio'n effeithiol, yn hytrach na thrwy ddiwygio strwythurau.

Mae datblygiad diweddar Cartref Gofal Marleyfield House ym Mwcle, sydd newydd gael estyniad, gyda’i gymysgedd o le ychwanegol i drigolion hirdymor, a gwasanaeth newydd i gefnogi pobl hyn sy’n gadael yr ysbyty am gyfnod byr, yn enghraifft berffaith o gydweithio cadarnhaol.  

Mae datblygiadau ar y cyd eraill yn cynnwys gwasanaeth Therapi Amlsystemig newydd, sydd wedi cael llawer o glod, i weithio gyda phobl ifainc a theuluoedd, datblygu cyfleoedd dydd a chyfleoedd gwaith newydd i bobl ag anableddau dysgu yn Hwb Cyfle a Hwb Dyffryn, ac agor Plas yr Ywen, cyfleuster gofal ychwanegol i oedolion hyn yn Nhreffynnon. 

Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint:

“Dylid cael ymrwymiad i adnoddau yn hytrach na chyllid i strwythurau newydd. Mae angen buddsoddiad mawr, cynaliadwy mewn gofal cymdeithasol.  Byddai mwy o fuddsoddiad yn ein galluogi i fynd i’r afael â rhai o’r heriau a nodwyd heb wneud dim o’r newidiadau sylweddol a gynigir.

“Mae angen inni sicrhau bod gweithwyr gofal cymdeithasol yn cael eu talu’n deg ac yn briodol. Bydd angen arian ychwanegol ar gyfer hyn. Yn aml, gall diffyg adnoddau, a chyllido gwir gost gofal o safon, rwystro gwasanaethau rhag cael eu gwella. Byddai buddsoddi arian yn y farchnad gofal cymdeithasol yn galluogi arloesi ac yn galluogi gwasanaethau i gael eu gwella.”

Mae’r model cyllido presennol yn ddiffygiol, ac y mae gwir angen buddsoddi amser ac adnoddau er mwyn dod â chydlyniaeth i'r cwestiwn cyllid hirdymor, ac er mwyn dylunio system sy'n gallu bodloni'r gofynion newydd ac ychwanegol y bydd gofal cymdeithasol yn eu hwynebu yn y dyfodol.

Dywedodd Neil Ayling, Prif Swyddog Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint:

“Mae atebolrwydd democrataidd yn un o gryfderau allweddol y system bresennol, ac mae’n rhaid cadw hynny. Mae angen inni gadw system gofal cymdeithasol sy’n cael ei harwain, ei chomisiynu a’i darparu’n agos at gymunedau lleol, gan alluogi penderfyniadau ynghylch cyllid i gael eu gwneud yn lleol er mwyn darparu gwasanaethau sy’n wirioneddol bwysig i bobl.”