Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adroddiad Monitro Blynyddol y Gymraeg

Published: 10/06/2021

Gofynnir i Gabinet Sir y Fflint gymeradwyo Adroddiad Blynyddol y Gymraeg yn ei gyfarfod ddydd Mawrth, 15 Mehefin.

Mae gan y Cyngor ddyletswydd statudol i gyhoeddi adroddiad blynyddol yn nodi sut mae wedi bodloni’r 171 o Safonau’r Gymraeg a nodwyd ym Medi 2015 gan Gomisiynydd y Gymraeg.

Mae Adroddiad Blynyddol y Gymraeg yn rhoi cyfle i nodi’r hyn mae’r Cyngor wedi’i wneud i fodloni’r safonau ac i ddangos enghreifftiau o arferion da. Mae meysydd cadarnhaol o gyflawniad yn ystod y flwyddyn yn cynnwys:

  • Mae cyfraddau cwblhau ein hasesiad sgiliau Cymraeg dros 98%. Dim ond 43 o weithwyr sydd bellach angen cwblhau’r asesiad.
  • Mae lleihad yn y nifer o weithwyr heb unrhyw sgiliau Cymraeg o gwbl o 38.18% (1096) i 35.45% (992) o weithwyr.
  • Dathlwyd Dydd Gwyl Ddewi trwy gefnogi Menter Iaith Fflint a Wrecsam i ddarparu gweithgareddau ar-lein, megis gorymdaith rithiol gyda pherfformiad gan Fand Cambria, ryseitiau coginio a chystadlaethau. Fe gymerodd ysgolion, cynlluniau gofal ychwanegol a chartrefi preswyl, ran yn y digwyddiadau hyn, yn ogystal â’r gymuned leol.
  • Cymerodd y Cyngor ran yn niwrnod Hawliau’r Gymraeg lle wnaethom bostio fideos ar y cyfryngau cymdeithasol o rai o’n gweithwyr Cymraeg i annog ein cwsmeriaid i gysylltu â ni yn Gymraeg a defnyddio ein gwasanaethau Cymraeg.

Mae rhai meysydd lle mae angen gwneud mwy o gynnydd:  

  • datblygu sgiliau Cymraeg ein gweithwyr, yn arbennig y rhai mewn swyddi sy’n wynebu’r cyhoedd, er mwyn cefnogi gwasanaethau i ddarparu gwasanaethau dwyieithog. Mae’r Tîm Dysgu a Datblygu wedi bod yn hyrwyddo cyrsiau blasu i annog gweithwyr i ddechrau dysgu Cymraeg.
  • sicrhau cydymffurfiaeth gyson gyda’r Safonau ar ein gwefan, cyfryngau cymdeithasol a dogfennau cyhoeddus.

Fe dderbyniom dwy gwyn mewn perthynas â’r Gymraeg a derbyniwyd tair cwyn yn uniongyrchol gan Gomisiynydd y Gymraeg.  Roedd y rhain yn ymwneud yn bennaf â materion a godwyd yn ystod argyfwng Covid-19 a phenderfynodd y Comisiynydd beidio â symud ymlaen gyda’r rhain o ystyried y cyd-destun eithriadol.  Mae un mater sy’n weddill mewn perthynas â gwefan Cronfa Bensiynau Clwyd.

Dywedodd Aelod Cabinet Rheoli Corfforaethol Sir y Fflint, y Cynghorydd Billy Mullin:

“Rydym yn cymryd ein cyfrifoldeb i gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg o ddifri, ac wedi ein hymrwymo i ddarparu gwasanaethau cyfartal yn Gymraeg a Saesneg. Mae hawl gan ein cwsmeriaid Cymraeg dderbyn yr un safon o wasanaeth yn y Gymraeg y mae ein cwsmeriaid Saesneg yn ei dderbyn. Mae’r adroddiad yn dangos yr hyn rydym yn ei wneud i gyflawni hyn a’r camau rydym yn eu cymryd i wella.”