Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyhoeddi Cadeirydd ac Is-Gadeirydd Newydd

Published: 27/05/2021

_DSC0292.jpgPenodwyd y Cynghorydd Joe Johnson yn Gadeirydd Cyngor Sir y Fflint ddydd Mawrth 25 Mai.  

Mae’r Cynghorydd Johnson yn cynrychioli rhanbarth etholiadol Dwyrain Treffynnon ac mae wedi bod yn aelod o’r Cyngor ers 2012. Mae’n olynu’r Cynghorydd Marion Bateman a fu yn y swydd am ddwy flynedd yn sgil pandemig Covid-19. 

Mae’r Cynghorydd Johnson yn briod â Sue, sydd hefyd yn Gynghorydd Tref Treffynnon, ers dros 40 o flynyddoedd. Mae ganddo ddwy o ferched sydd â gyrfaoedd a busnesau llwyddiannus.  Mae gan y Cynghorydd Johnson bedwar o wyrion ac wyresau. 

Bydd y Cynghorydd Sue Johnson yn Gymar y Cynghorydd Joe Johnson.

Dywedodd y Cynghorydd Joe Johnson:

“Rwyf yn falch iawn o gael fy ethol yn Gadeirydd i Gyngor Sir y Fflint ar gyfer y flwyddyn i ddod. Braint yw cael cynrychioli Sir mor ardderchog â’r un rydym yn byw ynddi. Byddaf yn cyflawni fy nyletswyddau hyd eithaf fy ngallu ac yn cynrychioli Sir y Fflint â balchder.”

Mae’r Cynghorydd Mared Eastwood wedi cael ei phenodi yn Is-Gadeirydd Cyngor Sir y Fflint.

Mae’r Cynghorydd Eastwood yn cynrychioli rhanbarth etholiadol New Brighton ac mae wedi bod yn aelod o’r Cyngor ers mis Mai 2017.