Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyngor yn awgrymu rhoi cynnig ar atyniadau gwahanol a thawelach

Published: 25/05/2021

NE Wales - hope mountain - landscapes-008-min small.jpgWrth i gyfyngiadau’r clo mawr lacio, mae Cyngor Sir y Fflint yn annog trigolion y sir i fynd allan a mwynhau rhai o atyniadau llai prysur yr ardal.

Yn naturiol, mae llawer o lwybrau cerdded a golygfeydd poblogaidd wedi bod ar ben rhestr pobl o lefydd i ymweld â nhw wrth i’r tywydd wella a’r cyfyngiadau leihau.

Ond mae Cyngor Sir y Fflint yn awyddus iawn i’r cyhoedd ddal i gadw pellter cymdeithasol a chadw at y rheolau Covid eraill er mwyn i bawb aros yn ddiogel.

Yn ystod cyfnodau brig, roedd Parc Gwepra mor brysur fel y bu’n rhaid cau’r maes parcio er mwyn rheoli nifer yr ymwelwyr a chadw pellter cymdeithasol.

Mae Andrew Farrow, Prif Swyddog Cynllunio, Amgylchedd ac Economi Sir y Fflint yn awyddus i atgoffa pawb fod digon o ddewisiadau eraill ar gael yn hytrach nag anelu am yr atyniadau prysuraf yn unig.

Meddai: “Mae amrywiaeth wych o bethau y gellir eu gweld a’u gwneud yn Sir y Fflint.

“Yma mae llawer o berlau cudd a mannau cyhoeddus tawelach sy’n cynnig golygfeydd a phrofiadau yr un mor wych a thrawiadol â’r llecynnau mwyaf poblogaidd.

“Mae rhywbeth i blesio pawb ac mae mwynhau llwybrau a safleoedd hanesyddol yn ffordd berffaith o dreulio prynhawn gyda’ch anwyliaid, a dysgu rhywbeth newydd am yr ardal hon yr un pryd.”

Daeth mynd am dro cerdded, byr a hir, yn weithgaredd poblogaidd iawn yn ystod y cyfnod clo ac, yn Sir y Fflint, mae llu o lwybrau i’w dilyn trwy goedwigoedd a chefn gwlad agored.

Os ydych yn chwilio am olygfeydd glan llyn, ewch am dro ar y llwybr rhwng Caerwys ac Ysceifiog.

Mae’r daith bum milltir hon yn mynd trwy goedwig gyda thyfiant cyfoethog, ac o amgylch llynnoedd hardd Ysgeifiog, a grëwyd gan ddyn. Yn aml fe welwch gotieir a ieir bach y dwr yn nythu ger y coed a gweision y neidr yn sgimio dros wyneb y dwr ym misoedd cynnes yr haf.

Os ydych chi’n hoffi golygfeydd gwych, cewch hynny, a llawer mwy wrth gerdded rhwng Waun y Llyn a Llanfynydd. Mae’r tro pedair milltir hwn yn gwau ei ffordd dros fryniau a rhwng chwareli tywodfaen gan rhoi cipolwg difyr ar hanes mwyngloddio yn Waun y Llyn. 

Cewch ragor o olygfeydd trawiadol wrth gerdded llwybr estynedig ger nant a thrwy ddyffryn coediog Nant-y-Ffridd. Gallwch gael cipolwg braf ar Sir Ddinbych o weledfan Gwaenysgor neu fwynhau harddwch y glannau ar y rhan o Lwybr Arfordir Cymru sy’n rhedeg drwy Sir y Fflint.

Ymhlith y llwybrau eraill y gallwch eu mwynhau yn y sir y mae:

  • Llwybr treftadaeth tair milltir sy’n dechrau a gorffen ym Mharc Gwledig Etna ym Mwcle
  • Cylchdaith o Glasfryn yn Yr Wyddgrug lle byddwch yn dringo i’r bryniau a thrwy Ystad Gwysaney a Sychdyn
  • Dringo i ben Mynydd Helygain, gan igam-ogamu heibio hen chwareli mwyngloddio a thir comin lle’r oedd defaid yn arfer pori
  • Llwybr o amgylch Parc Gwledig Waun y Llyn ac at gopa Mynydd yr Hob (yn y llun) lle cewch olygfeydd braf o gefn gwlad Sir y Fflint
  • Trip ar hyd traethau a thwyni tywod Y Parlwr Du hyd at aber Afon Dyfrdwy gyda golygfeydd hardd o Gilgwri ac arfordir Cymru.

Tra bod Castell Caergwrle yn lle poblogaidd gyda rhai sy’n ymddiddori yn hanes a diwylliant Cymru, os ydych am brofiad gwahanol yr un mor llawn o hanes rhowch gynnig ar y castell a arferai fod ar Fryn y Beili Yr Wyddgrug, neu ewch i fwynhau Parc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas.

Yn ddiweddar, gwariwyd £1.8 miliwn ym Mryn y Beili yn hwyluso mynediad a gwella’r llwybrau gan ychwanegu ardal berfformio newydd awyr agored lle gynt yr oedd y beili mewnol. Yn ystod y gwaith ailddatblygu bu’n rhaid cyfyngu rhywfaint ar fynediad i’r parc ond, gyda’r gwaith bellach wedi ei orffen, mae’r llecyn hwn ar agor yn llawn unwaith eto i bawb ei fwynhau.

Ym Mharc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas, ger Treffynnon, mae 70 erw o dir coediog lle byddwch yn rhyfeddu wrth weld dros 2,000 mlynedd o hanes – o olion adeiladau crefyddol fel Abaty Dinas Basing i’r ffatrïoedd a wnaeth gyfraniad mor bwysig at chwyldro diwydiannol Prydain.

Anogir pawb sy’n mwynhau hanes i gerdded glan môr tref Y Fflint ar hyd ochr Afon Dyfrdwy hyd at Gastell Y Fflint, sy’n enwog am ei dwr unigryw a mawreddog.

Os ydych yn ffansïo rhywbeth gwahanol i’r cyffro a gewch ar lwybrau beicio Coedwig Nercwys, beth am newid eich dwy olwyn am fwrdd padlo a chaiac ar ddyfroedd Parc y Gorffennol, ger Yr Hob.

Oes gennych chi berlau cudd yr hoffech eu rhannu? Ewch i dudalennau Archwilio Sir y Fflint ar Facebook (@exploreflintshire) ac Instagram (@explore_flintshire) a gadewch i bawb wybod eich ffefrynnau.