Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Estyniad newydd Ysgol Glanrafon yn cyrraedd carreg filltir bwysig

Published: 21/05/2021

KFP_2185 (1).jpgMae staff a disgyblion wedi llofnodi eu henwau ym mlwyddnod un o ysgolion cynradd Yr Wyddgrug, wrth i gam sylweddol o’r estyniad newydd gael ei gwblhau a rhan o’r ailddatblygu gychwyn siapio. 

Mae disgyblion a staff yn Ysgol Glanrafon, yn ogystal ag aelodau Cyngor Sir Y Fflint wedi ysgrifennu eu henwau ar nifer o baneli inswleiddio strwythuredig a fydd yn rhan o’r estyniad a’r cynllun ailfodelu £4 miliwn sy’n cael ei adeiladu gan Wynne Construction. 

Mae’r cwmni o Fodelwyddan, a benodwyd gan Gyngor Sir y Fflint, wedi bod ar y safle ers mis Rhagfyr. 

Mae cwblhau gosod y paneli yn nodi carreg filltir bwysig i’r prosiect, sef adeiladu’r prif estyniad newydd a fydd yn gartref i chwech ystafell ddosbarth y bwriedir eu cwblhau erbyn mis Hydref, gyda’r prosiect yn ei gyfanrwydd yn cael ei orffen erbyn Chwefror 2022. 

Drwy ddull gweithredu ‘deunydd yn gyntaf’ Wynne Construction, mae’r paneli, sy’n creu wal a tho yr adeiladu, wedi eu hadeiladu oddi ar y safle o dan amodau ffatri. 

Mae’r paneli yn golygu y gellir codi’r strwythur yn sydyn mewn dull sydd yn effeithlon o ran cost ac ynni. 

Meddai Bryn Roberts, rheolwr safle Wynne Construction: “Drwy lofnodi’r paneli, bydd disgyblion ac athrawon yn cofio’r foment hon ac ychwanegu at hanes yr ysgol wrth symud ymlaen. 

“Mae’n braf fod y plant yn gallu gweld y gwaith yn cael ei wneud ar hyn o bryd. 

“Yn ystod y cam nesaf bydd y to a’r ffenestri yn cael eu hychwanegu at yr adeilad cyn i ni gychwyn gweithio ar y tu mewn. 

“Hoffem ddiolch i’r plant, y staff, y rhieni a’r trigolion lleol am eu hamynedd a’u dealltwriaeth wrth i ni gyflawni’r prosiect hwn.” 

Ochr yn ochr â’r estyniad, bydd Wynne Construction yn ailwampio ac yn gwella adeilad cyfredol yr ysgol yn ogystal ag adeiladu darpariaeth cyn ysgol pwrpasol ar safle’r ysgol cyfrwng Cymraeg ar Lôn Bryn Coch. 

Bydd yr ystafelloedd dosbarth a’r cyfleusterau newydd yn golygu y gellir cynyddu capasiti’r ysgol ac mae’n cael ei ariannu drwy Grant Cyfalaf Cyfrwng Cymraeg Llywodraeth Cymru.

KFP_2244 (1).jpgDywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid: “Mae’r garreg filltir hon yn golygu ein bod un cam yn agosach at gyrraedd ein huchelgais i gynyddu’r nifer o siaradwyr Cymraeg yn y rhanbarth drwy addysg, ac edrychaf ymlaen at weld yr ysgol wedi ei chwblhau. 

“Mae’r llofnodi yn ffordd wych i blant Ysgol Glanrafon gerfio eu henwau yn y llyfrau hanes ac mewn ffordd fach mae’n cyfrannu at rywbeth fydd yn aros yma am gyfnod hir.” 

Meddai Olwen Corben, pennaeth Ysgol Glanrafon: “Mae hwn yn gyfnod cyffrous iawn yn yr ysgol, gallwn weld y cynnydd sy’n cael ei wneud bob dydd ac mae’r adeilad yn dod yn ei flaen yn arbennig. 

“Mae gweld y cynllun yn dwyn ffrwyth wedi gwneud i ni sylweddoli beth fyddwn ni’n ei gael fel rhan o’r datblygiad newydd.” 

Mae’r prosiect wedi ei nodi gan Lywodraeth Cymru fel un sy’n debygol o gynorthwyo gyda’u targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.