Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd 

Published: 14/05/2021

Bydd gofyn i Aelodau Cabinet Sir y Fflint nodi adolygiad o Gynllun Rheoli Asedau Priffyrdd (HAMP) pan  fyddant yn cyfarfod ar 18 Mai. 

Y rhwydwaith priffyrdd yw isadeiledd asedau mwyaf gwerthfawr y Cyngor, gydag asedau lonydd cerbydau a throedffyrdd werth dros £1 biliwn.  Mae cyflwr diogel a defnyddiadwy'r rhwydwaith yn hanfodol i gynnal cysylltedd economaidd a chymdeithasol, yn Sir y Fflint ac yn y rhanbarth ehangach.  

Mae gan y Cyngor ddyletswydd statudol i gynnal yr holl briffyrdd sydd wedi’u mabwysiadu, gan gynnwys strwythurau priffyrdd yn y Sir (nid yw’n cynnwys Cefnffyrdd) ac mae’r HAMP yn darparu’r egwyddorion ar gyfer rheoli’r rhwydwaith pwysig hwn sef: 

• Ymagwedd systematig ar gyfer cynnal a chadw gydag ymagwedd cynnal a chadw hir dymor. 

• Gwneud y mwyaf o’r buddiannau drwy gydbwyso'r galw sy’n gwrthdaro ar draws y gwahanol fathau o asedau. 

• Dyrannu adnoddau yn seiliedig ar yr angen a aseswyd ac ymagwedd yn seiliedig ar risg i ddyrannu cyllid. 

• Ystyried disgwyliadau'r cyhoedd yn benodol. 

Ond, mae angen cydnabod y bydd cyflwr y rhwydwaith priffyrdd yn parhau i ddirywio’n naturiol bob blwyddyn a heb fuddsoddiad blynyddol digonol bydd cyflwr cyffredinol y rhwydwaith yn dirywio. 

Dywedodd Steve Jones, Prif Swyddog Strydwedd a Chludiant Cyngor Sir y Fflint: 

“Yn ddelfrydol hoffai’r awdurdod gyflawni parhad o’r lefel cyflwr presennol – mae hyn angen buddsoddiad cyfalaf o dros £3.2m y flwyddyn.  Nid yw hyn yn ystyried cyflwr dirywiol yr asedau eraill fel troedffyrdd, strwythurau a rhwydwaith y goleuadau stryd. 

“Felly mae’n rhaid dyrannu mwyafrif y cyllid sydd ar gael i gynnal a chadw’r lonydd cerbydau.   Mae’r Cyngor yn gweithredu trefn arolygu a gymeradwywyd ar gyfer yr holl asedau sy’n sicrhau bod y cyllid sy'n cael ei ddyrannu i bob elfen yn ddigonol i sicrhau bod yr ased yn ddiogel ac yn addas i bwrpas ac felly'n sicrhau ein bod yn cydymffurfio â’n gofyniad statudol i gynnal y rhwydwaith.” 

Bydd gofyn i aelodau Cabinet hefyd gymeradwyo diweddariad i’r Polisi ar gyfer Arolygon Diogelwch Priffyrdd a Meysydd Parcio, Meini Prawf Ymyrraeth ac Amseroedd Ymateb i gynnwys ymagwedd ddiwygiedig i arolygon strwythurau’r priffyrdd.   Bydd y diweddariad yn darparu eglurder i gategoreiddiad asedau strwythur priffyrdd Sir y Fflint, ynghyd ag amlder a’r mathau o arolygon a ddyrennir ar gyfer pob categori asedau.  Mae'r holl gynigion yn alinio gyda'r canllawiau cenedlaethol a'r cyngor cynnal a chadw.