Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Defnyddio Profion Llif Unffordd yn gywir

Published: 11/05/2021

Hoffai Cyngor Sir y Fflint atgoffa rhieni nad yw Profion Llif Unffordd yn cymryd lle profion PCR. 

Mae’n rhaid i unrhyw un sy’n profi symptomau o Covid-19 archebu prawf PCR.  Caiff y profion hyn eu hanfon i labordy i gael eu gwirio. 

Nid yw Profion Llif Unffordd yn gallu canfod lefelau isel iawn o’r coronafeirws mewn sampl gan nad ydynt mor sensitif â phrofion PCR.  Mae’n bosibl felly i’r Prawf Llif Unffordd roi canlyniad negyddol ffals a rhoi sicrwydd ffals nad oes gan yr unigolyn Covid-19. 

Os bydd eich plentyn yn profi unrhyw un o’r symptomau canlynol:

• tymheredd uchel 

• tagiad newydd a pharhaus 

• colli neu newid i’ch synnwyr arogli neu flasu 

Dylid archebu prawf PCR.  Mewn achosion o’r fath, ni ddylid cwblhau Prawf Llif Unffordd.  Dylech chi ac unrhyw un yr ydych yn byw â nhw aros gartref nes y byddwch wedi derbyn canlyniad eich prawf. Dylech ond gadael eich cartref i gael prawf. 

I archebu prawf PCR, dilynwch y ddolen ganlynol:  llyw.cymru/cael-prawf-coronafeirws-covid-19

Dylech hefyd roi gwybod i’ch ysgol, cyflogwr neu ddarparwr gofal plant ar unwaith. 

Hefyd, peidiwch ag anfon eich plentyn i’r ysgol os oes unrhyw un yn y cartref yn profi symptomau o Covid-19 neu’n aros am ganlyniadau prawf PCR. 

Diolch am eich cydweithrediad mewn perthynas â’r mater hwn ac am helpu ysgolion i gadw eich plant yn ddiogel.