Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Helpu i lunio Strategaeth Dementia ar gyfer Sir y Fflint

Published: 04/05/2021

Dementia small.jpg

Mae’r Cyngor a’i bartneriaid yn estyn gwahoddiad i chi helpu i lunio Strategaeth Dementia ar gyfer Sir y Fflint.  

Amcangyfrifir bod rhwng tua 10,000 ac 11,000 o bobl yn byw gyda dementia yng Ngogledd Cymru. Mae'r nifer hwn yn debygol o gynyddu wrth i nifer y bobl hyn gynyddu yn y boblogaeth.

Mae gan Sir y Fflint wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, grwpiau cymunedol a gweithgareddau sydd wedi hen ennill eu plwyf ar gyfer pobl sy’n byw gyda dementia, a'u teuluoedd a'u gofalwyr.  Er hyn, gall anghenion pobl newid dros amser, ac mae bob amser lle i wella. 

Oherwydd hyn, rhwng 4 Mai ac 11 Mehefin mae’r Cyngor yn gweithio’n agos â'r Bwrdd Iechyd a sefydliadau cefnogi eraill i ddatblygu Strategaeth Dementia newydd ar gyfer Sir y Fflint.  

Bydd y Strategaeth hon yn cael ei llywio gan Gynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Dementia a’r themâu yn Strategaeth Dementia Gogledd Cymru, gan ganolbwyntio ar anghenion pobl Sir y Fflint.

Ni ellir ysgrifennu’r Strategaeth hon heb glywed llais y bobl sy’n byw gyda dementia, eu gofalwyr a'u teuluoedd, a'r rhai sy'n gweithio gyda nhw.  

Am ragor o wybodaeth ac i gymryd rhan, ewch i: siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Social-Services/Dementia.  

Mae’r tudalennau hyn hefyd yn cynnwys llawer iawn o wybodaeth am y gefnogaeth sydd ar gael yn Sir y Fflint ar gyfer pobl sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr.