Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gorsafoedd Pleidleisio Sy’n Covid-ddiogel

Published: 22/04/2021

ECO8605_May_Polls_Twitter_Senedd and PCC_ for PR.jpgAr ddydd Iau 6 Mai 2021 bydd trigolion Cymru yn mynd i bleidleisio i ddweud eu dweud ar bwy sy’n eu cynrychioli yn y Senedd a phwy fydd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd ar gyfer eu hardal heddlu lleol. Mae paratoadau mewn llaw i sicrhau bod pobl yn cadw'n ddiogel wrth fwrw eu pleidleisiau.

Dywedodd Colin Everett, Swyddog Canlyniadau Rhanbarthol Gogledd Cymru: 

"Mae nifer o ffyrdd y gall pobl ddweud eu dweud yn yr etholiadau ym mis Mai – drwy fwrw pleidlais mewn gorsaf bleidleisio, drwy'r post, neu drwy benodi rhywun rydych chi'n ymddiried ynddo i bleidleisio ar eich rhan, a elwir yn bleidlais drwy ddirprwy.

"Mae'r etholiadau ym mis Mai yn bwysig iawn – maen nhw'n gyfle i bobl leisio eu barn a chael dweud eu dweud ar bwy sy'n eu cynrychioli ar faterion sy'n effeithio'n uniongyrchol ar fywyd o ddydd i ddydd yma yng Ngogledd Cymru.

"Rydym wedi bod yn meddwl am yr etholiadau hyn ac yn cynllunio ar eu rhan ers peth amser fel y bydd pobl yn gallu bwrw’u pleidlais ym mis Mai yn ddiogel. Rydym yn rhoi trefniadau ar waith i helpu pleidleiswyr a staff i gadw'n ddiogel yn yr orsaf bleidleisio. Bydd llawer o'r mesurau y mae pobl bellach yn disgwyl eu gweld mewn siopau a banciau fel glanweithydd dwylo, marciau llawr a masgiau wyneb ar waith. Ond mae gennych hefyd yr opsiwn i wneud cais i bleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy."

"Mae mesurau COVID-19 eraill mewn gorsafoedd pleidleisio yn cynnwys:

  • Mynedfeydd ac allanfeydd ar wahân lle bo hynny'n bosibl
  • Mewn rhai gorsafoedd pleidleisio, bydd Rheolwr Drysau yn bresennol i sicrhau y gellir cadw pellter bob amber
  • Newid cynlluniau i ganiatáu ar gyfer ymbellhau cymdeithasol wrth aros i bobl bleidleisio, ond yn dal i sicrhau y gall etholwyr fwrw eu pleidlais yn gyfrinachol
  • Staff gorsafoedd pleidleisio yn gwisgo PPE
  • Annog pleidleiswyr i ddod â'u pensil eu hunain
  • Bythau pleidleisio'n cael eu diheintio'n rheolaidd.

"Gall y mesurau hyn olygu bod yn rhaid i etholwyr aros yn hwy nag arfer er mwyn gallu bwrw eu bleidlais ond byddant yn gallu gwneud hynny'n hyderus mewn amgylchedd diogel a glân."