Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Asesiad blynyddol Addysg ac Ieuenctid 

Published: 14/04/2021

Flintshire CC • CMYK.jpgBydd gofyn i aelodau Cabinet Cyngor Sir y Fflint nodi asesiad hunanwerthuso Addysg ac Ieuenctid ac adroddiad thematig cadarnhaol Estyn am waith y gwasanaeth addysg yn Sir y Fflint i gefnogi plant a phobl ifanc yn ystod y pandemig. 

Mae Sir y Fflint yn cynnal hunanwerthusiad blynyddol o’i wasanaeth addysg. Fel rheol, caiff ei ysgrifennu yn erbyn y fframwaith a gyhoeddwyd gan Estyn, ond gan bod y fframwaith yma wedi’i ohirio yn sgil Covid-19, fe gyflwynir yr adroddiad yma mewn fformat gwahanol gyda phob maes gwasanaeth yn canolbwyntio ar ei waith dros y deuddeng mis diwethaf a sut mae wedi ymateb ac addasu i’r argyfwng iechyd parhaus. 

Mae’r deuddeng mis diwethaf wedi bod yn unigryw ac wedi cyflwyno heriau na welwyd eu tebyg o’r blaen ar gyfer y Cyngor, yn enwedig mewn cysylltiad â chyflwyno’r Gwasanaeth Addysg. 

Mae adroddiad adborth Estyn wedi’i seilio ar gyfarfodydd dros y we gyda Swyddogion Addysg, Aelod Cabinet Arweiniol Addysg, Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Addysg ac Ieuenctid a sampl o benaethiaid mewn ysgolion ac Unedau Cyfeirio Disgyblion, ac mae’n amlinellu ymateb cyflym ac effeithiol y Cyngor i gefnogi plant ac ysgolion o ddechrau’r pandemig. 

Yn benodol, mae’n cydnabod yr arweinyddiaeth gref gan Dîm Ymateb i Argyfwng y Cyngor a’r Portffolio Addysg. Mae’n sôn am gryfderau yr ymagwedd gydlynol a rennir ar draws y Cyngor a phartneriaid allanol, e.e. GwE, i addasu gwasanaethau’n effeithiol er mwyn bodloni anghenion plant, pobl ifanc a’u teuluoedd yn ystod yr argyfwng cenedlaethol. 

Mae hefyd yn nodi’r adolygiad trylwyr o ymateb y Cyngor trwy waith y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant. Mae’r adroddiad yn gadarnhaol iawn ac nid yw’n nodi unrhyw awgrymiadau ar gyfer gwelliant pellach.