Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Grant Ardrethi Annomestig y Gronfa i Fusnesau Dan Gyfyngiadau – Mawrth 2021

Published: 22/03/2021

Yn dilyn cyhoeddiad Prif Weinidog Cymru ar 12 Mawrth 2021, mae’r Cyngor yn parhau i weithio gyda busnesau lleol sydd wedi cael eu heffeithio gan gyfyngiadau Covid.

Mae’r rownd ddiweddaraf o grantiau wedi cael eu dylunio i ddarparu cymorth ychwanegol i fusnesau sy’n talu ardrethi busnes ac yn gweithredu yn y sectorau lletygarwch, twristiaeth, hamdden a manwerthu dianghenraid, gan gynnwys busnesau cadwyni cyflenwi. 

Bydd busnesau cymwys gyda gwerth ardrethol o hyd at £500,000 a dderbyniodd y Grant Ardrethi Annomestig y Gronfa Cyfyngiadau o fis Rhagfyr i fis Chwefror, yn derbyn y rownd ddiweddaraf o grantiau yn awtomatig i mewn i’w cyfrifon banc busnes ac nid oes angen iddynt wneud cais eto. Dechreuodd taliadau’r grant ar 15 Mawrth 2021.

Bydd busnesau cymwys yn derbyn taliadau grant o:

•     £4,000 ar gyfer busnesau cymwys sy’n meddiannu eiddo gyda gwerth ardrethol o £12,000 neu lai

•     £5,000 ar gyfer busnesau cymwys sy’n meddiannu eiddo gyda gwerth ardrethol rhwng £12,001 a £500,000

Mae’r cynllun hefyd ar agor i fusnesau o fewn y sectorau hyn sydd wedi meddiannu eiddo busnes cymwys ers 1 Mawrth 2021 neu gynt a heb wneud cais am grant yn flaenorol.

Bydd busnesau sy’n gwneud cais am y tro gyntaf angen cwblhau ffurflen gais a datgan os ydynt wedi profi gostyngiad o 40% mewn trosiant ar gyfer mis Ionawr a mis Chwefror 2021 o’i gymharu â mis Ionawr a Chwefror 2020. Os yw eich busnes yn gymwys, ac os nad ydych eisoes wedi gwneud cais am y grant diweddaraf, cwblhewch y ffurflen gais ar-lein ar Ardrethi Busnes

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Ian Roberts:

“Wrth i ni ddechrau dod o’r pandemig yn araf ac wrth i rai o’r cyfyngiadau ddechrau llacio, rydym yn parhau i gynnig cymorth hanfodol i fusnesau yn y sectorau manwerthu, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth. Dros y diwrnodau diwethaf, rydym eisoes wedi gwneud 1,300 o daliadau sy’n gyfystyr â £5.5m ac mae’r Cyngor yn parhau i chwarae rôl hanfodol i weinyddu pecyn cymorth ariannol diweddaraf Llywodraeth Cymru”.