Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Llofnodi trawst yng nghampws Queensferry 

Published: 17/03/2021

Mae gwaith yn parhau ar adeiladu Plas Derwen £11 miliwn newydd sbon (Uned Cyfeirio Disgyblion), Ty Calon - Canolbwynt Cymunedol ac ailwampio Ysgol Gynradd Queensferry.

A dathlwyd y gwaith hwn yn ddiweddar mewn seremoni lofnodi’r trawst.

Cymerodd disgyblion o Ysgol Gynradd Queensferry ran yn y seremoni ble cadwyd pellter cymdeithasol, roedd cynrychiolwyr y cwmni sy'n adeiladu'r cyfleusterau, Kier Group, hefyd yn bresennol.

Ar gyfer Plas Derwen bydd ysgol ddeulawr newydd sbon, ar gyfer 111 disgybl, yn cael ei chodi ar safle'r cyrtiau tennis.

Mi fydd yna 9 ystafell ddosbarth, 3 ystafell arbenigol, gofodau therapiwtig, cyfleusterau gweinyddol, neuadd, cegin a chownter arlwyo ac ardaloedd chwarae caled a meddal. 

Ar gyfer Ty Calon bydd cyfleuster cymunedol unllawr yn cael ei godi ar y tiroedd sydd ar gael a bydd yno amrywiaeth o gyfleusterau cymunedol, gan gynnwys caffi, stiwdio, cegin fasnachol a bar, cyfleusterau newid ar gyfer chwaraeon cymunedol, gofodau addysgu cymunedol ar gyfer oedolion a phobl ifanc, a maes parcio. 

Ar gyfer Ysgol Gynradd Queensferry bydd mynediad newydd yn cael ei godi a gwaith yn cael ei wneud ar y tiroedd cysylltiedig, gan gynnwys codi bloc gweinyddol, neuadd a chegin newydd. 

Y tu allan mi fydd yna waith tirlunio sylweddol yn cael ei wneud i ddarparu gofodau agored a gwyrdd, bydd y llwybr troed cyhoeddus yn cael ei symud a bydd ffin newydd yn cael ei chreu ar gyfer yr ysgol. 

Meddai'r Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint:

“Bydd gwaith moderneiddio’r ysgol a chodi’r adeilad newydd ar gyfer Plas Derwen yn cael ei wneud i’r safon uchaf, a bydd yn darparu cyfleusterau modern heb eu hail a’r cyfleoedd dysgu gorau ar gyfer ein plant. Mae’r Cyngor yn parhau i ymrwymo i fuddsoddi yn nyfodol ein plant a’n pobl ifanc. Rydym ni’n parhau i weithio i ddarparu addysg gynaliadwy o safon uchel i’n holl ddysgwyr. Mae’n wych gweld y gwaith adeiladu gyda’r prosiect cyffrous hwn yn mynd rhagddo.”

Dywedodd Peter Commins, cyfarwyddwr rhanbarthol Kier Regional Building North and Scotland: 

“Mae llofnodi’r dur yn nodi carreg filltir allweddol o ran datblygu’r prosiect a chychwyn gosod y ffrâm ddur. Mae’r tîm ar y safle wedi gweithio’n hynod o galed i gyrraedd y pwynt hwn ac wedi bod yn gweithio yn unol â Gweithdrefnau Gweithio ar Safle yn benodol i COVID-19, a grëwyd yn unol â chanllawiau’r llywodraeth.” 

 

Plas Derwyn (4 of 8)small.jpg