Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adroddiad moderneiddio ysgolion

Published: 11/03/2021

School 5.jpgBydd aelodau Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn cael y cynigion cyffrous nesaf ar gyfer gwella darpariaeth addysg mewn gwahanol ardaloedd o'r Sir pan fyddant yn cyfarfod ddydd Mawrth 16 Mawrth.

Gofynnir i’r Cabinet gytuno i gomisiynu contract dylunio ac adeiladu ar gyfer y prosiectau arfaethedig yn Ysgol Croes Atti, Y Fflint ac ysgol gynradd Drury.

Mae prosiect Croes Atti wedi’i gysylltu’n agos â Chynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg y Cyngor a bydd yr ysgol cyfrwng Cymraeg newydd arfaethedig yn disodli Ysgol Croes Atti, sydd ar Ffordd Caer yn y Fflint. Os caiff ei gytuno gan y Cabinet, hon fydd yr ysgol cyfrwng Cymraeg newydd gyntaf i gael ei hadeiladu gan y Cyngor, ers iddo gael ei sefydlu ym 1996. Mae’r prosiect arfaethedig hwn yn ychwanegol at y prosiect buddsoddi a gytunwyd eisoes yn Ysgol Croes Atti, Glannau Dyfrdwy.

Y cynnig arloesol arall yw ailfodelu Ysgol Gynradd Drury, gan fynd i’r afael â materion addasrwydd a chapasiti a fyddai’n darparu llety parhaol ar gyfer ystafelloedd dosbarth i ddisodli ystafelloedd dosbarth symudol presennol.  

Mae’r cynigion diweddaraf hyn yn dilyn prosiectau llwyddiannus eraill sydd wedi’u cwblhau neu sy’n mynd rhagddynt fel rhan o raglen fuddsoddi Band B Ysgolion yr 21ain Ganrif y Cyngor a ffrydiau ariannu eraill a ddarperir gan Lywodraeth Cymru.  

Meddai’r Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint ac Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid:

“Mae gwaith gwych eisoes wedi’i wneud gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru mewn gwahanol rannau o’r Sir, gan gynnwys prosiectau mawr ar gyfer ysgolion yn Nhreffynnon, Shotton, Penyffordd a Chei Connah.

“Er mwyn sicrhau bod modd i’r prosiectau cyffrous hyn ddatblygu, gobeithir y bydd y Cabinet yn cytuno’r cynigion hyn yn ein rhaglen fuddsoddi ar gyfer y dyfodol ar gyfer ysgolion. Bydd hyn yn sicrhau bod gwaith yn gallu parhau i ddatblygu yn ddi-oed i ddarparu ein hadeilad ysgol cyfrwng Cymraeg newydd cyntaf ers 1996, a gwella cyfleusterau’n sylweddol yn Ysgol uwchradd Drury."