Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwelliannau ffordd – cyffordd A541 Ffordd Wrecsam / B5102 Ffordd Llai ac A541 Ffordd Wrecsam / A550 Ffordd Penarlâg / Lôn Cymau 

Published: 08/03/2021

roadworks_SMALL.jpg

Yn dilyn cais llwyddiannus am arian gan Lywodraeth Cymru dan y Grant Cludiant Lleol, bydd gwaith gwella ffordd yn cael ei wneud ar gyffordd yr A541 Ffordd Wrecsam / B5102 Ffordd Llai ac A541 Ffordd Wrecsam / A550 Ffordd Penarlâg / Lôn Cymau yn dechrau yn wythnos 15 Mawrth 2021.  

Bydd y gwelliannau’n cynnwys uwchraddio goleuadau traffig ar gyffordd yr A541 Ffordd Wrecsam / A550 Ffordd Penarlâg / Lôn Cymau ac ailddylunio cyffordd A541 Ffordd Wrecsam / B5102 Ffordd Llai i gynnwys goleuadau traffig. Bydd wyneb newydd ar y ffyrdd hefyd.Disgwylir i’r gwaith bara 10 wythnos, a gwneir pob ymdrech i leihau unrhyw darfu.  Bydd y gwaith yn golygu y bydd angen cau ffyrdd dros dro, a bydd hynny’n cael ei reoli’n effeithiol, ac fe gyhoeddir rhybuddion ymlaen llaw ynghylch y ffyrdd fydd yn cau a’r gwyriadau.            

Dywedodd Aelod Cabinet dros Strydwedd a Chefn Gwlad, y Cynghorydd Carolyn Thomas:

 “Rwy’n falch y bydd y gwaith gwella ffordd y bu angen a galw mawr amdano yn dechrau cyn bo hir, diolch i arian grant gan Lywodraeth Cymru a gwaith caled swyddogion priffyrdd Cyngor Sir y Fflint sy’n gweithio ar y cynllun.  

 “Mae gwaith peirianyddol mawr angen ei wneud, a bydd peth tarfu am rai wythnosau, ond dylai canlyniad y gwaith liniaru’r problemau y mae defnyddwyr y ffyrdd a'r gymuned leol yn eu profi bob dydd.”