Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adroddiad Perfformiad Rhaglen Gyfalaf SATC

Published: 05/03/2021

Cyflwynir adroddiad ar Safon Ansawdd Tai Cymru gan y Cyngor i’w Bwyllgor Archwilio a Throsolwg Tai Cymunedol ac Asedau.  Gofynnir i’r pwyllgor, pan fydd yn cyfarfod ddydd Mercher 10 Mawrth, gefnogi’r Rhaglen Buddsoddi Cyfalaf ym mlwyddyn olaf y buddsoddi mawr. 

Mae Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) yn safon genedlaethol i gartrefi’r sector cyhoeddus yng Nghymru, fel y’i nodir gan Lywodraeth Cymru, i sicrhau fod pob tenant yng Nghymru yn byw mewn tai o ansawdd dda sy’n bodloni anghenion pob aelwyd. 

Roedd y rhaglen i fod i ddod i ben erbyn Rhagfyr 2020, ond oherwydd pandemig COVID-19, mae Llywodraeth Cymru wedi ymestyn y dyddiad cau i Ragfyr 2021. Bydd yr estyniad hwn yn cael ei adolygu eto yn seiliedig ar effeithiau sefyllfa barhaus COVID-19.

Hyd yma, o’n Stoc Dai o 7,300 rydym yn adrodd ar hyn o bryd fod y:

• Ceginau sy’n cydymffurfio â SATC: 100%

• Ystafelloedd ymolchi sy’n cydymffurfio â SATC: 100%

• Toeau a chydrannau cysylltiedig sy’n cydymffurfio â SATC: 87%

• Drysau / Ffenestri sy’n cydymffurfio â SATC: 92%

• Cyfartaledd Bodlonrwydd Cwsmer SATC: 96%

Bydd yr adroddiad hefyd yn nodi taith y Cyngor wrth gyflawni ei raglen helaeth o ailwampio dros gyfnod y SATC, sydd wedi darparu gwelliannau i gartrefi, ond hefyd wedi creu gwaith drwy gyfleoedd gyda chontractwyr yn y cymunedau lleol a rhoi hyfforddiant a gwaith i 57 prentis. 

Meddai’r Cynghorydd Dave Hughes, Aelod Cabinet Tai Cyngor Sir y Fflint:

“Mae pob cegin ac ystafell ymolchi wedi eu gorffen bellach – ac eithrio’r “methiannau derbyniol”.  Mae’r rhain yn golygu tenantiaid sydd naill ai wedi gwrthod neu lle nad oes mynediad, ac yn ôl Llywodraeth Cymru cânt eu dosbarthu fel rhai sy’n cydymffurfio o ran cyflawni SATC.  Bydd yr eiddo yma’n cael eu trin yn y dyfodol.

“Yn ystod y gwaith rydym wedi sicrhau fod mesurau mewn lle fel bod ein tenantiaid, swyddogion a’n contractwyr yn ddiogel.  Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi eu bod yn hapus gyda’r cynlluniau sydd gennym ar hyn o bryd a’r gwaith rydym yn ei wneud.”