Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


RHEOLI CWN MEWN MANNAU CYHOEDDUS

Published: 26/02/2021

Dog fouling - small.jpgErs dechrau’r cyfnod clo cyntaf ym mis Mawrth 2020 mae Cyngor Sir y Fflint wedi gweld cynnydd mewn cwynion am faw cwn.  Mae ar bob perchennog ci ddyletswydd i lanhau ar ôl eu hanifail a chadw Sir y Fflint yn lân.  Gan weithio gyda chymunedau lleol, mae ein Swyddogion Gorfodi wedi bod yn patrolio ardaloedd problemus ac yn ymgysylltu â’r cyhoedd i’w haddysgu am y mater hwn. 

Mae Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus Sir y Fflint yn dweud:

  • Mae’n rhaid i chi godi baw eich ci a chael gwared arno yn y ffordd gywir
  • Mae’n rhaid i chi fod â modd o godi baw eich ci (e.e. bag baw cwn)
  • Mae rhai mannau penodol wedi’u dosbarthu’n barthau gwahardd cwn:
    • mannau chwarae plant ag offer
    • pob maes chwaraeon a farciwyd mewn ardaloedd chwarae 
    • ardaloedd chwarae mewn ardaloedd hamdden ffurfiol gan gynnwys ond nid yn gyfyngedig i lawntiau bowlio a chyrtiau tenis
    • pob ardal o fewn tir ysgolion
  • Mae’n rhaid i chi roi eich ci ar dennyn os bydd swyddog awdurdodedig y cyngor yn gofyn i chi wneud hynny
  • Mae’n rhaid i chi roi eich ci ar dennyn pan fyddwch mewn mynwent

A CHOFIWCH:

Mae gollwng neu adael bag sy’n cynnwys baw ci yn cael ei ystyried yn daflu sbwriel a gallech dderbyn Hysbysiad Cosb Benodedig os ydych yn gwneud hyn. Dylech gael gwared ar faw eich ci yn y ffordd gywir drwy:  

  • Ei roi mewn bag ac yna mewn bin baw cwn
  • Ei roi mewn bag ag yna mewn bin sbwriel cyffredin
  • Neu fynd ag o adref a’i roi yn eich bin eich hun

Mae Swyddogion Gorfodaeth Troseddau Amgylcheddol Sir y Fflint yn patrolio ein mannau cyhoeddus ac yn ymgysylltu â’r cyhoedd. Os bydd y swyddogion hyn yn gweld trosedd yn cael ei chyflawni, byddant yn cyflwyno Hysbysiad Cosb Benodedig o £75.00 yn y fan a’r lle.

I roi gwybod am unrhyw broblemau baw ci yn eich ardal chi ffoniwch ein Canolfan Gyswllt Gwasanaethau Stryd ar 01353 701234 

NEU

Ewch i’n gwefan 

Bydd angen i chi roi eich lleoliad, eich cod post ac unrhyw wybodaeth berthnasol am y problemau yn eich ardal chi (amser / dyddiad / math o gi).