Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ail-agor ysgolion i ddysgwyr y Cyfnod Sylfaen

Published: 18/02/2021

 Gyda’r gostyngiad parhaus yn y nifer o achosion o Covid-19 mae Cyngor Sir Y Fflint wedi cyhoeddi heddiw y bydd ei holl ysgolion cynradd yn ail-agor fel y bwriadwyd o ddydd Llun 22 Chwefror, a bydd dysgwyr y Cyfnod Sylfaen i gyd yn ail-ddechrau yn raddol, nes y byddant i gyd wedi dychwelyd erbyn dydd Gwener 26 Chwefror. Y gyfradd achosion ar gyfartaledd rhwng diwedd Hydref a diwedd Tachwedd, pan oedd yr holl ddisgyblion yn yr ysgol a phan oedd llai o gyfyngiadau mewn grym, oedd 217.5 fesul can mil o bobl. Mae ffigyrau’r wythnos hon yn dangos cyfradd sydd bellach bron yn hanner hynny, gyda’r sicrwydd ychwanegol y bydd yr holl gyfyngiadau cenedlaethol Lefel 4 yn dal mewn grym dros y cyfnod pan fydd disgyblion yn dychwelyd i’r ysgol yn raddol. 

Mae ysgolion unigol wedi cadarnhau eu trefniadau agor lleol gyda rhieni. Bydd yr holl wasanaethau cludiant ac arlwyo ar gael yn llawn er mwyn cefnogi’r broses o ddychwelyd i’r ysgol. Bydd teuluoedd sydd yn gymwys am brydau ysgol am ddim yn derbyn eu taliad ar gyfer wythnos 22 Chwefror i gynnwys diwrnodau pa fydd eu plant Cyfnod Sylfaen wedi dychwelyd yn llawn, o reidrwydd. Fodd bynnag, bydd gwasanaethau arlwyo NEWydd yn darparu gwasanaeth prydau bwyd llawn i’r holl ddisgyblion gan gynnwys rheiny sydd yn gymwys am brydau ysgol am ddim, felly does dim angen i’r teuluoedd hyn ddarparu pecyn bwyd i’w plant yn ystod yr wythnos honno. 

Dywedodd Claire Homard, Prif Swyddog Addysg ac Ieuenctid;

“Mae’r Cyngor yn hyderus fod yr asesiadau risg cadarn a’r mesurau gwarchod rhag covid sydd yn eu lle yn yr holl ysgolion yn golygu fod ysgolion yn lleoedd diogel i’r plant a’r staff ddychwelyd iddynt. Mae ysgolion yn brofiadol iawn o ran rheoli addysgu wyneb yn wyneb yn ddiogel, ac maent yn awyddus i groesawu eu disgyblion Cyfnod Sylfaen yn ôl, gan gydnabod fod effeithiau cyfnodau hir o absenoldeb oddi wrth ddysgu uniongyrchol a chwmni eu ffrindiau bellach yn fwy o risg i’w datblygiad academaidd hir dymor a’u lles emosiynol nac effaith bosib y feirws.”

Cyng. Dywedodd Ian Roberts, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet dros Addysg;

“Mae’r Cyngor yn ddiolchgar iawn i’r ysgolion am yr holl waith caled maent wedi ei wneud i baratoi i groesawu dysgwyr yn ôl yr wythnos nesaf. Hoffai’r Cyngor hefyd atgoffa rhieni a gofalwyr fod parhau i gydymffurfio â chyfyngiadau’r cyfnod clo pan fydd ysgolion yn ail-agor yn ran hanfodol o’r trefniadau er mwyn i ddisgyblion ddychwelyd yn ddiogel, a bod dilyn y canllawiau cadw pellter cymdeithasol a gwisgo mygydau wrth ddanfon a nôl plant o’r ysgol yn gwbl hanfodol.”