Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyllid ar gyfer ailwampio cyfleusterau gofal plant yn Sir y Fflint

Published: 11/02/2021

Mae Llywodraeth Cymru (LlC) wedi dyfarnu £4,890,000 i Gyngor Sir y Fflint ar gyfer Cynllun Grant Cyfalaf y Cynnig Gofal Plant a £500,000 ar gyfer cynlluniau grant cyfalaf bach. 

Mae’r cynllun yn caniatáu ar gyfer adeiladu modiwlar neu ailwampio eiddo a fydd yn creu amgylchedd dan do ac awyr agored addas i blant 3-4 mlwydd oed, plant eraill, staff a defnyddwyr eraill yn y gymuned, a fydd yn hamddenol, codi ysbryd, yn ddiogel ac yn ddeniadol.  

Mae’r cyllid o ganlyniad i achos busnes sy’n cael ei gyflwyno gan swyddogion y Blynyddoedd Cynnar a Gwasanaeth Cefnogi Teuluoedd, sy’n gweithio gyda chydweithwyr yr Adran Addysg a’r sector gofal plant ehangach. 

Dywedodd Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Christine Jones:

“Mae rhieni wedi dweud wrthym y byddant yn ddelfrydol eisiau gallu danfon eu plant a’u codi o’r un safle, a chael mynediad i becyn di-dor o ofal plant.

“Prif bwrpas rhaglen Sir y Fflint felly yw hwyluso a chefnogi darpariaeth y Cyfnod Sylfaen a gofal plant ar yr un safle pan fo’n bosib.”

Dywedodd Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Ian Roberts:

“Dyma swm sylweddol o gyllid ar gyfer Sir y Fflint, a bydd o fudd i sawl rhiant sy'n gweithio ac sydd angen gofal plant cyn ysgol a’r cynnig o gyfleusterau modern i blant allu chwarae, dysgu a datblygu.

“Mae cydweithwyr y Gwasanaeth Cymdeithasol wedi gweithio mewn partneriaeth lawn gyda swyddogion addysg ar y cynllun hollbwysig hwn, ac rydw i’n cefnogi’r rhaglen wych hon yn llawn, i ddarparu cyfleusterau gofal plant o’r radd flaenaf i nifer o blant yn y sir.”

Mae deg safle ysgol gynradd a fyddai’n elwa o’r cyllid hwn ar hyn o bryd.  Sef:

• Ysgol Derwen yn Kinnerton

• Westwood School ym Mwcle

• Ysgol yr Esgob yng Nghaerwys 

• Ysgol Croes Atti yn Shotton

• Ysgol Merllyn ym Magillt

• Ysgol Glan Aber ym Magillt

• Ysgol Bro Carmel yng Ngharmel 

• Ysgol Maes y Felin yn Nhreffynnon

• Ysgol Sychdyn 

• Ysgol y Llan yn Chwitffordd

Rydym yn gobeithio gallu cynnig cynlluniau pellach yn y dyfodol, yn amodol ar gyllid gan LlC.

Dyfarnwyd y contract i gynnal y gwaith hwn i Wynne Construction, sydd wedi’u lleoli ym Modelwyddan. Gobeithir y bydd y gwaith adeiladu yn dechrau yn y misoedd nesaf, gyda dyddiad cwblhau erbyn mis Mawrth 2022.