Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2021/22 a Chynllun Busnes

Published: 10/02/2021

Ddydd Mawrth, 16 Chwefror, bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gymeradwyo cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2021/22 a chrynodeb o Gynllun Busnes Ariannol 30 mlynedd y Cyfrif Refeniw Tai. 

Mae Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai yn cynnwys atgyweirio a chynnal cartrefi’r Cyngor, gwaith gwella gan gynnwys gwelliant amgylcheddol, rheoli cymdogaeth gan gynnwys mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, gofalu am ystâd, casglu incwm a chyfranogiad cwsmeriaid ar gyfer ei 7,300 o gartrefi Cyngor, hefyd mae'n cynnwys rhaglen adeiladu tai cyngor uchelgeisiol. 

Yn Rhagfyr 2019, bu i Lywodraeth Cymru ryddhau’r polisi rhent diwygiedig am gyfnod o 5 mlynedd yn dechrau ym mlwyddyn ariannol 2020/21. Bwriad hyn yw sicrhau fod fforddiadwyedd i denantiaid yn graidd i’n hystyriaethau. 

Yr opsiwn a argymhellwyd ar gyfer rhenti yn 2021/22 oedd rhoi codiad cyffredinol o 0.68% i bob tenant, ac yn ychwanegol, rhoi codiad pontio o £2 i denantiaid sydd o dan y targed rhent. Mae hyn yn sicrhau na fydd unrhyw denant unigol yn talu mwy na’r uchafswm a ganiateir ond yn parhau i symud tuag at ail ymdrin â’r anghysondeb rhwng y rhenti hynny o dan a’r rhai ar rent targed, gan geisio gwneud costau rhent yn fwy cyfartal i bob tenant.

Mae disgwyl i renti garejis gynyddu 20c yr wythnos i £10.03 yr wythnos a rhent am ddarn o dir ar gyfer garej gynyddu 3c yr wythnos gan fynd ag o i £1.63 yr wythnos.

Mae polisi rhent a thâl gwasanaeth Llywodraeth Cymru yn disgwyl i bob landlord cymdeithasol gyflawni’r gost lawn.  Mae Sir y Fflint wedi bod yn gweithio tuag at hyn.  Fodd bynnag, ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, cynigir rhewi costau gwasanaeth.  Bydd hyn yn diogelu tenantiaid sy’n wynebu anhawster ariannol o ganlyniad i’r sefyllfa argyfyngus barhaus.  

Meddai’r Cynghorydd Dave Hughes, Aelod Cabinet Tai Cyngor Sir y Fflint:

“Mae £20.8 miliwn wedi’i gynnwys yn rhaglen gwella Tai Cyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/22, mae’n cynnwys darpariaeth ar gyfer gwaith mewnol (ceginau ac ystafelloedd ymolchi), gwaith allanol (ffenestri, drysau, toeau, cwterydd, ac ati), rhaglenni amgylcheddol, addasiadau i bobl anabl a gwaith i arbed ynni a chaffaeliad strategol. 

“Yn ogystal, mae yna ychydig dros £14miliwn ar gael ar gyfer cynlluniau adeiladu tai’r Cyngor i sicrhau bod mwy o dai cyngor yn cael eu hadeiladu, mae’r rhaglenni gwaith hyn ynghyd yn gyfwerth â buddsoddiad o £34.8m.”