Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Llythyr agored Arweinydd y Cyngor Sir, y Cynghorydd Ian Roberts, at bobl Sir y Fflint

Published: 04/02/2021

Flintshire together.jpgMae pob un ohonom ni yma yng Nghyngor Sir y Fflint yn gwerthfawrogi’r ffordd y mae’r mwyafrif helaeth o drigolion y sir wedi ymateb ac ymdopi â'r argyfwng presennol. Rydym ni wedi gweithio gyda’n gilydd i gydymffurfio â’r rheoliadau angenrheidiol, ac i gefnogi ein gilydd. Mae pob un ohonom ni wedi ein profi i’r eithaf.

Fel Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid y Cyngor, a chyn athro, rydw i’n deall pa mor anodd ydi darparu ysgol gartref i blant. A gallaf ddychmygu bod gwneud hyn yr un pryd â gweithio gartref, fel y mae llawer ohonoch chi’n ei wneud, neu boeni am gyllid eich teulu oherwydd eich bod chi wedi’ch rhoi ar gyfnod o ffyrlo, yn anodd dros ben. Mae rhieni a gofalwyr wedi mynd benben â’r her hon. Rydym ni’n edmygu’r ffordd rydych chi wedi helpu ac arwain eich plant i barhau i ddysgu. Drwy ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru, ac yn unol â’r dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf, rydym ni’n gobeithio dychwelyd i ddarpariaeth ysgol fwy normal cyn gynted â phosibl pan fydd hi’n ddiogel gwneud hynny. 

Mae gennym ni rwan gynllun brechu uchelgeisiol ar gyfer y gogledd, gyda phractisau meddygon teulu yn chwarae eu rhan ochr yn ochr â'r canolfannau brechu mawr. A chyda’r cynllun brechu daw gobaith. Fodd bynnag, mae’r sefyllfa argyfyngus ymhell o fod drosodd.  

Mae’n rhaid i bob un ohonom ni barhau i fod yn wyliadwrus, ac ufuddhau i’r cyfyngiadau a’r canllawiau i’r llythyren. Rydym ni’n apelio atoch chi am eich cefnogaeth a’ch cydweithrediad parhaus i ddiogelu iechyd a bywydau. 

Diolch i chi am ddarllen y llythyr hwn.

Cofion gorau, a chadw'ch yn saff.

Ian