Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Twyll Treth y Cyngor Newydd

Published: 29/01/2021

SGAM.jpg

Mae Safonau Masnach Cyngor Sir y Fflint wedi dod i wybod am dwyll Treth y Cyngor newydd.  Mae trigolion wedi rhoi gwybod i ni eu bod wedi derbyn galwad ffôn a oedd yn honni mai Adran Treth y Cyngor Sir y Fflint oedden nhw a fod y trigolion wedi gordalu am eu Treth Cyngor o £2000, ac i dderbyn ad-daliad, roedd yn rhaid iddynt dalu £170. Os ydych yn derbyn galwad o’r fath, rhowch y ffôn i lawr ar unwaith, TWYLL YDYW. Os oes gennych chi unrhyw bryderon am eich Treth Cyngor, ffoniwch Cyngor Sir Y Fflint ar 01352 704848.