Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Grantiau Cam 3 - 26/01/2021

Published: 28/01/2021

Money Fotolia_40586732_XS[1].jpg

Mae Cyngor Sir y Fflint yn parhau i weithio gyda busnesau lleol sydd wedi cael eu heffeithio gan y cyfyngiadau sydd mewn lle ers 4 Rhagfyr, a chyfyngiadau pellach ers 20 Rhagfyr 2020 i reoli lledaeniad Covid-19. Hyd yma mae £4.17M wedi’i ddyrannu i 1,236 o fusnesau cymwys. 

Mae’r rownd ddiweddaraf o grantiau cymorth annomestig wedi’u dylunio’n benodol i gefnogi’r sector Lletygarwch, Hamdden a Thwristiaeth yn ogystal â busnes manwerthu dianghenraid. 

Bydd masnachwyr hanfodol, a’r busnesau hynny yn y gadwyn gyflenwi i’r sector Lletygarwch, Hamdden a Thwristiaeth sy’n gallu dangos lleihad o 40% mewn trosiant, yn gymwys ar gyfer y rownd ddiweddaraf o grantiau.   

Os yw eich busnes yn gymwys, ac nad yw'r grant diweddaraf wedi'i ddyrannu i chi'n barod, llenwch y ffurflen gais ar-lein yn Ardrethi Busnes.