Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Diogelu Safle Ysbyty’r Fflint ar gyfer y Dyfodol

Published: 26/01/2021

Mae Cyngor Sir y Fflint yn camu i mewn i sicrhau dyfodol safle Ysbyty Cymuned y Fflint.

Mae’r hen ysbyty cymuned wedi chwarae rhan bwysig yn hanes y dref. Mae llawer iawn o ddiddordeb cyhoeddus wedi bod yn safle’r hen ysbyty cymuned a’i ddyfodol ers iddo gau.

Meddai Arweinydd Cyngor Sir y Fflint ac aelod lleol, y Cynghorydd Ian Roberts:

“Mae hwn yn safle sensitif iawn yn nhref y Fflint.  Mae Cyngor Sir y Fflint a’r Bwrdd Iechyd wedi bod yn bryderus am y safle ers yr ymosodiad tân bwriadol ac maent yn awyddus i’w wneud yn ddiogel.  

“Wrth edrych i’r dyfodol, mae’r Cyngor yn ystyried ymestyn ei amrediad o ddarpariaeth cartrefi gofal.  Mae cartref presennol Croes Atti yn darparu gofal i 30 o breswylwyr ac rydym, fel Cyngor, yn gobeithio ehangu ar hynny.  Byddai modd gwneud hyn ar y safle hwn ond byddai'n rhaid cau’r cartref er mwyn caniatáu i’r gwaith gael ei wneud.  Yr opsiwn lleiaf aflonyddgar fyddai adeiladu cartref gofal newydd ar safle'r hen ysbyty.  

“Rydym yn bwriadu gweithio gyda’r Bwrdd Iechyd i ddarparu cartref newydd gyda 60 o welyau ar safle’r hen ysbyty yn y Fflint.  Gobeithiwn, trwy weithio mewn partneriaeth â’r Bwrdd Iechyd, y gallwn ddarparu cyfleuster gofal “camu i fyny camu i lawr” ar y safle wedi’i ailddatblygu.  Cam cyntaf y broses yw hwn ac mae angen i ni gydweithio’n agos gyda’r gymuned yn ardal y Fflint a gyda’r Bwrdd Iechyd i gyflawni cyfleuster newydd sbon sy’n parhau i ddarparu’r gofal gorau, mewn lleoliad modern i drigolion Sir y Fflint.”  

Dywedodd Mark Wilkinson, Cyfarwyddwr Gweithredol Cynllunio a Pherfformiad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: 

“Yn dilyn yr ymosodiad tân bwriadol ar hen safle Ysbyty Cymuned y Fflint yn ddiweddar, mae peirianwyr strwythurol wedi cynnal archwiliad ac wedi cadarnhau bod yr adeilad mewn cyflwr peryglus. Gan hynny mae’r Bwrdd Iechyd yn teimlo mai’r dewis gorau er mwyn cefnogi’r gymuned leol yw dymchwel yr adeilad a throsglwyddo’r tir i Gyngor Sir y Fflint er mwyn buddsoddi mewn cyfleusterau gofal preswyl newydd ar y safle.

“Nid yw’r adeilad wedi cael ei ddefnyddio i ddarparu gwasanaethau gofal iechyd ers peth amser ac yn 2018 agorwyd Canolfan Iechyd a Lles newydd gwerth £5m yn y Fflint i ddarparu amryw o wasanaethau i’r dref mewn adeilad modern ac addas i’r diben.

“Roedd hyn yn cynnwys gwasanaethau newydd Awdioleg, Methiant y Galon a Ffisiotherapi ac mae hyn wedi caniatáu i bobl gael amrywiaeth o driniaethau yn y gymuned – rhywbeth nad oedd yn bosibl cyn hynny."

Fel rhan o’r cysyniad cyffrous hwn, mae’r Bwrdd Iechyd yn bwriadu darparu gwelyau gofal “camu i fyny camu i lawr” a chymorth nyrsio i gleifion ysbyty.