Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Mae Gwasanaeth Olrhain Cysylltiadau Gogledd Cymru yn recriwtio rwan.

Published: 05/01/2021

Hoffech chi wneud gwahaniaeth a helpu i gadw cyfraddau Covid-19 yn is?

Mae Gwasanaeth Olrhain Cysylltiadau Gogledd Cymru yn recriwtio rwan. 

Mae’r cynnydd sylweddol yng nghyfraddau heintio Covid-19 dros yr wythnosau diwethaf yn bryder i ni oll, gydag amrywiolyn newydd y feirws yn fwgan ychwanegol.

Mae cyflwyno’r ail frechlyn wedi rhoi rhywfaint o obaith i ni fod yna olau ym mhen draw'r twnnel, ond nid ydym ni eto allan o berygl.  

Mae olrhain cysylltiadau yn ddull profedig o reoli lledaeniad clefydau heintus a bydd yn parhau i fod yn elfen allweddol o’n brwydr yn erbyn y feirws am rai misoedd i ddod. 

Mae’r Nadolig a’r flwyddyn newydd wedi bod yn gyfnod prysur iawn i'n tîm Profi, Olrhain a Diogelu ac maen nhw wedi bod yn gweithio'n ddiflino i ddiogelu pawb a chyfyngu ar ledaeniad Covid-19.   

Mae arnom ni angen pobl i ymuno â’n timau o olrheinwyr cysylltiadau ac ymgynghorwyr, i gysylltu â thrigolion ar draws Cymru sydd wedi derbyn prawf Covid-19 positif a’r bobl y maen nhw wedi dod i gysylltiad â nhw.  

Os ydych chi’n chwilio am swydd newydd, her newydd neu eisiau gwneud eich rhan yn ystod y pandemig, yna mae arnom ni eisiau clywed gennych chi.  

Am fwy o wybodaeth am Wasanaeth Olrhain Cysylltiadau Gogledd Cymru ewch i: www.siryfflint.gov.uk/GOCGC  

Neu ymgeisiwch ar-lein yn: www.siryfflint.gov.uk/swyddi