Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynllun grantiau newydd i fusnesau

Published: 28/10/2020

Mae Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir y Fflint yn parhau i gydweithio i helpu busnesau ymdopi â chanlyniadau economaidd y coronafeirws a’r cyfnod atal byr yng Nghymru. 

Ceir dau gynllun grant newydd sy’n cynnig cymorth ariannol i bob busnes lleol - mae yna hyd at £5,000 ar gael i'r busnesau hynny sy'n talu trethi busnes a hyd at £2,000 ar gael i fusnesau lleol eraill.  

Diben y grantiau diweddaraf yma ydi cefnogi llif arian busnesau. Mae’r cynlluniau grant yn ceisio ategu mesurau ymateb eraill Covid-19 i gefnogi busnesau, mentrau cymdeithasol a chyrff elusennol yng Nghymru. Y Cyngor sy'n gweinyddu'r grantiau ac yn eu talu ar sail y cyntaf i’r felin.  Bydd y cynlluniau grant yn cau am 5pm ddydd Gwener 20 Tachwedd, neu pan fo’r holl arian wedi’i neilltuo. 

 Mae ffurflenni cais ar-lein a mwy o wybodaeth ar gael rwan: www.siryfflint.gov.uk/grantiaucefnogibusnes

Dywedodd y Cyng Ian Roberts, Arweinydd y Cyngor:

“Mae hwn yn arian grant pwysig iawn sy’n cynnig llawer o gymorth i gefnogi ein busnesau lleol. Rydym wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau ein bod yn trefnu’r cynlluniau grant diweddaraf yn gyflym – rydym yn disgwyl i’r taliadau cyntaf gael eu gwneud yr wythnos hon. Mae Sir y Fflint yn Sir arloesi a rhagoriaeth busnes a diwydiannol a dylai’r grantiau hyn helpu i sicrhau’r dyfodol i lawer o fusnesau.   Rwy’n falch ein bod yn chwarae ein rhan i helpu i gefnogi’r economi leol a diogelu swyddi