Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Aros am ganlyniad prawf Covid-19? Arhoswch gartre

Published: 22/10/2020

Mae’r rhan fwyaf o drigolion Sir y Fflint, sy’n derbyn galwad gan Wasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu Gogledd Cymru, yn derbyn eu cyfrifoldeb i hunan-ynysu a nodi eu cysylltiadau ar ôl dod i gysylltiad ag eraill sydd wedi derbyn prawf Covid-19 positif.  Ac rydym ni’n gwerthfawrogi eu cydweithrediad a’u dealltwriaeth yn fawr iawn. 

Fodd bynnag, yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf mae yna rai pobl sydd heb gadw at y rheolau hunan-ynysu ac mae eu gweithredoedd wedi mynd yn groes i ymdrechion pawb arall i atal lledaeniad Covid-19.  

Mae cydymffurfio yn gyfrifoldeb ar bawb. Gall peidio â dilyn cyfarwyddiadau diogelu iechyd effeithio ar ysgolion, busnesau lleol a gweithwyr ac ar y bobl fwyaf diamddiffyn yn ein cymunedau sy’n fwy tebygol o ddioddef cymhlethdodau yn sgil Covid-19. 

Meddai Colin Everett, Prif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint:

“Mae’r hyn rydych chi’n ei ystyried yn salwch ysgafn yn gallu bod yn ddifrifol iawn i eraill. Os oes gennych chi unrhyw un o symptomau cydnabyddedig Covid-19, dim ots pa mor ysgafn ydyn nhw, arhoswch gartref. Os ydych chi’n derbyn prawf positif, yna mae’n rhaid i chi a’ch aelwyd hunan-ynysu.” 

Meddai Dr Rachel Andrew, Arweinydd Canolbwynt Profi, Olrhain a Diogelu Rhanbarthol Betsi Cadwaladr:

“Mae’r coronafeirws yn gallu lledaenu’n hawdd i'ch teulu, ffrindiau a’ch cydweithwyr. Felly, er mwyn diogelu pawb, mae’n bwysig iawn eich bod chi’n aros gartref os ydych chi’n teimlo’n sâl neu os ydi Gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu Gogledd Cymru neu Ap COVID-19 y GIG wedi’ch cynghori chi i hunan-ynysu.”

Am fwy o wybodaeth, ewch i: https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Cynllunio-Rhag-Argyfwng/Test-Trace-Protect.aspx