Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ymgynghoriad cyhoeddus – Llwybrau mwy Diogel yn y Gymuned, Shotton ac Arbed Amser Siwrneiau, B5129 Stryd Fawr, Shotton

Published: 21/10/2020

 

Mae Cyngor Sir y Fflint yn gofyn am eich barn am nifer o gynlluniau priffyrdd yn Shotton sy’n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru.

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Cyngor Sir y Fflint wedi derbyn nifer o bryderon gan breswylwyr ac aelodau lleol ynglyn â’r lefelau cynyddol o dagfeydd a chyflymder traffig ger Ysgol Ty Ffynnon ac Ysgol Croes Atti. Codwyd pryder penodol ynglyn â modurwyr yn anwybyddu’r terfyn cyflymder cynghorol o 20mya yn agos at yr ysgolion, ac mae nifer o breswylwyr yn bryderus am ddiogelwch y plant sy’n defnyddio’r llwybr yma’n ddyddiol.

Mae nifer o’r problemau a nodwyd ar hyd y llwybrau yn ymwneud â lefelau uchel o gerbydau’n cael eu defnyddio a thagfeydd cysylltiedig yn yr ardaloedd yn agos at yr ysgolion ac ar hyd nifer o lwybrau i’r ysgol.

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi llwyddo i gael cyllid trwy fenter Llwybrau Diogel yn y Gymuned Llywodraeth Cymru i helpu i fynd i’r afael â phryderon diogelwch ar y ffyrdd a thagfeydd yn yr ardaloedd ger Ysgol Ty Ffynnon ac Ysgol Croes Atti, er budd y gymuned, a phlant sy’n mynychu’r ddwy ysgol.

Bydd y cynllun yn cynnwys terfynau cyflymder 20mya gorfodol, gostegu traffig, cyfyngiadau parcio yn yr ardaloedd preswyl ac uwchraddio llwybrau troed a llwybrau ceffylau sydd eisoes yn bodoli i gysylltu cymunedau i’w gilydd.

Meddai Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas:

"Mae creu amgylchedd cerdded a beicio mwy diogel ar gyfer siwrneiau i’r ysgol yn allweddol er mwyn annog plant, naill ai ar eu pen eu hunain, neu gydag oedolyn, i gerdded i’r ysgol. Gyda phellter cyfartalog ar gyfer siwrneiau ysgol yn cynyddu, ffyrdd o fyw sydd yn fwy prysur a phryder dros ddiogelwch, mae nifer y plant 5-16 oed sy’n teithio i’r ysgol mewn car wedi dyblu ers 1985. Trwy greu llwybrau llesol mwy diogel i’r ysgol, mae gennym gyfle gwych o wrthdroi’r duedd bresennol."

Yn sgil llif traffig presennol ar rwydwaith ffyrdd Sir y Fflint, mae angen i’r Cyngor ddatblygu dulliau cludiant deniadol ac amgen, yn ogystal â gwella amseroedd siwrneiau mewn bws a char. Mae’r tagfeydd dyddiol sy'n effeithio ar Stryd Fawr Shotton yn dangos yr angen i fynd i’r afael â’r materion a wynebir bob dydd gan gymudwyr, trigolion a busnesau.

Yn ogystal â’r cynigion i arbed amser siwrneiau, mae’r Cyngor wedi achub ar y cyfle hwn i ymgynghori ar fesurau beicio, yn sgil nifer o gwynion sy’n ymwneud â damweiniau a fu bron a digwydd gyda beicwyr ar y llwybr troed, ac ar ôl cynnydd mewn beicio.

Ychwanegodd y Cynghorydd Thomas:

"Bydd gwella amseroedd siwrneiau mewn bws a char ar hyd Stryd Fawr Shotton yn cael manteision sylweddol ar breswylwyr a busnesau sy’n dioddef yn sgil problemau tagfeydd dyddiol. Rydym ni’n awyddus i glywed eich barn am y cynigion arbed amser siwrneiau, ac fe fyddem yn croesawu adborth ar fesurau beicio posibl ar hyd y rhan yma o’r ffordd."

Dywedodd y Cynghorydd Lleol, Sean Bibby:

"Rydw i’n hapus iawn bod cais gan Gyngor Sir y Fflint am Gyllid Llwybrau Cludiant Diogel yn y Gymuned Llywodraeth Cymru wedi bod yn llwyddiannus er mwyn sicrhau mesurau diogelwch ar y ffyrdd sydd fawr eu hangen yma yn Shotton. Rydw i wedi derbyn nifer o bryderon gan breswylwyr a rhieni ynglyn â goryrru a pharcio anystyriol sydd yn peryglu diogelwch ar y ffyrdd, yn enwedig plant sy’n mynychu Ysgol Ty Ffynnon ac Ysgol Croes Atti.

"Ers cael fy ethol i’r Cyngor Sir, rydw i wedi gweithio’n galed gyda swyddogion yn y Gwasanaethau Stryd i ddod o hyd i ddatrysiadau, a dwi’n falch o weld fod y cynigion yn cael eu cyflwyno ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus o’r diwedd. Gobeithio y cawn ni ymateb gan bob preswylydd a budd-ddeiliaid allweddol gan ddarparu adborth adeiladol hanfodol er mwyn i ni sicrhau y gellir cyflwyno cynllun sydd yn ymarferol."

Mae modd gweld cynigion ar gyfer y cynlluniau ar wefan Cyngor Sir y Fflint  a gellir gadael unrhyw sylw ar Eforms. Os nad oes gennych fynediad at gyfrifiadur, yna gallwch ffonio i gofrestru eich barn ar: 01352 701234.