Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Bod yn ddiogel ac aros yn lleol yr hanner tymor hwn

Published: 21/10/2020

Wrth i’r hanner tymor agosáu ac yn dilyn cyhoeddiad y Prif Weinidog o ‘gyfnod atal byr’ i helpu i arafu lledaeniad feirws Covid-19, atgoffwn drigolion, er bod parciau a mannau chwarae yn parhau ar agor, ni ddylem deithio yn y car i ymweld â hwy. 

Dylech edrych ar y set arbennig o Gwestiynau Cyffredin ar wefan Llywodraeth Cymru fel canllaw i’r hyn y gallwch ac na allwch ei wneud yn ystod y cyfnod hwn llyw.cymru/cyfnod-atal-y-coronafeirws-cwestiynau-cyffredin.

Hoffwn atgoffa pawb i aros yn ddiogel. Ar ôl nifer o ddigwyddiadau ac anafiadau yr haf hwn, yn arbennig ym Mharc Gwepra, ble roedd rhaid galw’r gwasanaethau brys, paratowch a gwisgwch yr offer cywir.

Yr hanner tymor hwn, mwynhewch a pharchwch ein hamgylchedd naturiol, ond byddwch yn gyfrifol a gofalwch am eich hun trwy:

  • Paratoi a chynllunio
  • Gwisgo esgidiau addas ar gyfer y tir
  • Gwisgo ar gyfer y tywydd
  • Cadarnhau fod ble rydych yn mynd ar agor ac yn hygyrch
  • Cofio cadw pellter corfforol neu gymdeithasol
  • Ewch â’ch sbwriel adref
  • Bod yn berchennog ci cyfrifol
  • Dilyn y cod cefn gwlad

Meddai Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas:

"Rydym eisiau i drigolion lleol barhau i fwynhau ein mannau gwyrdd lleol yn ddiogel, sy’n werth eu gweld wrth i’r tymhorau newid. A wnewch chi helpu pawb trwy gydweithredu, dilyn y rheolau a’r rheoliadau ac arhoswch yn ddiogel, arhoswch yn lleol." 

 

IMG_0803.JPGIMG_0804.JPG