Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Datganiad gan Gyngor Sir y Fflint

Published: 19/10/2020

Fe fydd pawb yn ymwybodol fod y Prif Weinidog wedi galw am gyfnod atal byr er mwyn helpu i arafu lledaeniad feirws Covid-19. Fe fydd y cyfnod atal byr yn weithredol o 6.00pm nos Wener 23 Hydref tan ddydd Llun 9 Tachwedd. Yn ystod y cyfnod yma, fe fydd yna gyfres o gyfyngiadau newydd a bydd rhaid i leoliadau gau dros dro.

Darllenwch y set arbennig o Gwestiynau Cyffredin ar wefan Llywodraeth Cymru fel canllaw i’r hyn y gallwch a’r hyn na allwch chi ei wneud yn ystod y cyfnod yma llyw.cymru/cyfnod-atal-y-coronafeirws-cwestiynau-cyffredin.

Mae gwefan y Cyngor yn cael ei ddiweddaru i ddangos pa wasanaethau fydd yn parhau ar agor yn ystod y cyfnod yma, a pha rai fydd yn gorfod cau.  Bydd y ddolen ar dudalen gartref y wefan yn fuan.

Pan ganiateir i ni, byddwn yn cadw pob gwasanaeth lleol ar agor. Rydym ni’n awyddus i gadw ein Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref ar agor, ond bydd yn rhaid iddynt gau.   Bydd gwasanaeth casglu gwastraff y cartref ac ailgylchu yn parhau fel arfer.

Rydym ni’n falch fod meysydd chwarae plant yn yr awyr agored yn cael aros ar agor. Fe fyddem ni’n annog rhieni i oruchwylio eu plant yn y meysydd chwarae, gan gymryd cyfarpar glanhau gyda nhw ac osgoi cyfarfod â phobl eraill gan y byddai hyn yn groes i’r rheoliadau.

Rydym ni hefyd yn falch o gadarnhau y bydd ein canolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu yn Nhreffynnon a’r Fflint yn parhau ar agor yn ystod y cyfnod yma er mwyn i breswylwyr gael gafael ar wasanaethau’r Cyngor a gwasanaethau eraill.

Bydd ysgolion cynradd, ysgolion arbennig a lleoliadau gofal plant yn parhau ar agor. Fe fydd ysgolion uwchradd yn cynghori rhieni/gofalwyr a myfyrwyr am y trefniadau ar gyfer grwpiau oedran gwahanol.

Rydym ni’n apelio ar bawb i gydweithredu’n llawn a dilyn y canllawiau. Trwy wneud aberthau personol, fe allwn ni gyd chwarae ein rhan er mwyn arafu lledaeniad y feirws ac amddiffyn bywydau.

Cofiwch fod gan yr Heddlu a chynghorau bwerau gorfodi, ac y gellir rhoi dirwyon a chosbau eraill i unigolion a busnesau sydd yn torri’r rheolau. Byddai’n well gan bawb mai dewis olaf yw gorfodi.