Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Prosiect maethu arloesol yn ennill gwobr elusen y DU 

Published: 16/10/2020

Mae plant a phobl ifanc sydd wedi eu maethu yn Sir y Fflint yn manteisio ar raglen maethu sydd wedi ennill gwobrau. 

Mae gwasanaeth maethu Cyngor Sir y Fflint yn rhan o raglen Mockingbird, sy’n cael ei redeg gan y Rhwydwaith Maethu, elusen faethu blaenllaw yn y DU, sydd wedi gweld prosiectau gwych eraill yn ennill y Big Impact Award yng Ngwobrau’r Trydydd Sector eleni. 

Mae’r Mockingbird yn defnyddio model arloesol sydd cynnwys clwstwr o aelwydydd maethu wedi’u sefydlu mewn strwythur tebyg o deulu estynedig. 

Mae llwyddiannau wedi codi megis osgoi perthnasau yn chwalu mewn aelwydydd maethu a chynnal gofalwyr maeth a fyddai fel arall wedi gadael y rôl, mae canlyniadau gwych wedi deillio o'r rhaglen. Mae hyn wedi cynnwys cynorthwyo gwasanaethau maethu ac yn osgoi costau o oddeutu £3miliwn rhwng mis Mai 2018 a Mawrth 2020. 

Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint: 

 “Mae’n fenter gwych. Mae gofal cymdeithasol Sir y Fflint yn arwain y ffordd mewn maethu.”

Mae’r model teulu estynedig hwn yn darparu sadrwydd o lefel uchel i blant a phobl ifanc, ac yn cryfhau perthynas rhwng pob aelod o’r clwstwr, gan gynnwys teuluoedd geni a gweithwyr cymdeithasol. 

Dywedodd Gavin, gofalwr maeth Mockingbird: 

 “Mae hi wedi bod yn wych cael bod yn rhan o glwstwr cyntaf Mockingbird Sir Y Fflint. Mae’r cefnogaeth gan gymheiriaid wedi bod yn wych a gyda’n gilydd rydym yn cael gymaint o’r ffordd newydd hon o weithio.”

Dywedodd Lily Stevens. Pennaeth y rhaglen Mockingbird: 

 “Rydym yn falch iawn o fod wedi ennill yn y categori hwn, mae’n brawf o hyder ein cyllidwyr a phartneriaid mewn ffordd dosturiol, gynaliadwy a newydd o ddarparu gofal maeth. Mae’n dweud llawer am ymdrechion pawb sydd ynghlwm â’r rhaglen.” 

Mae’r rhaglen Mockingbird, sydd yn darparu Model Teulu Mockingbird a ddatblygwyd yn wreiddiol gan The Mockingbird Society yn America yn 2004, yn cael ei redeg gan elusen maethu arweiniol, Y Rhwydwaith Maethu, ac yn cael ei ariannu’n rhannol gan Adran Addysg. Mae’r rhaglen yn cynnwys 39 partner a 61 clwstwr ar draws y Deyrnas Unedig. 

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i  thefosteringnetwork.org.uk/mockingbird.

Ewch i weld Beth yw Mockingbird? ar youtube