Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Chyllideb 2021/22

Published: 15/10/2020

Yn eu cyfarfod ar 20 Hydref, bydd gofyn i aelodau’r Cabinet adolygu’r rhagolygon cyffredinol ar gyfer cyfnod 2021/22 - 2023/24 a chyfeirio at y rhestr o bwysau costau ar gyfer 2021/22 i gyfarfodydd Trosolwg a Chraffu ym mis Tachwedd.

Bydd gofyn hefyd i’r aelodau drafod y datrysiadau sydd ar gael i ateb y pwysau costau yma ac ail osod y strategaeth ariannu ar gyfer 2021/22.

Mae’r adroddiad hwn yn rhoi diweddariad o’r sefyllfa a ragfynegwyd ddiwethaf ym mis Chwefror 2020 ar gyfer 2021/22 a’r ddwy flynedd ariannol ddilynol. Roedd y pwysau costau a nodwyd ar gyfer 2021/22 ar y pryd yn £9.829m. 

Mae adolygiad llawn, sy’n rhoi ystyriaeth lawn i effeithiau cyfredol y sefyllfa argyfyngus, wedi ei gynnal er mwyn creu gwaelodlin cywir a chadarn o bwysau costau y bydd angen eu hariannu. 

Mae’r sefyllfa ddiweddaraf a ragwelir isod. Dyma’r arian y byddwn angen dod o hyd iddo i lenwi'r bwlch yn y gyllideb:

2021/22 - £14.423m - £27.336m

2022/23 - £9.447m - £13.036m

2023/24 - £8.982m - £11.996m

Bydd rhagolygon ar gyfer 2022/23 a 2023/24 yn parhau i gael eu paratoi ynghyd â’r gwaith i gytuno ar gyllideb 2021/22 wrth i’r penderfyniadau a wneir trwy’r broses effeithio ar amcanestyniadau’r blynyddoedd i ddod. 

Dywedodd y Cynghorydd Glyn Banks, Aelod Cabinet Cyllid Cyngor Sir y Fflint: 

"Mae’r sefyllfa argyfyngus yn parhau i gael effaith sylweddol ar sail costau’r Cyngor, a’i allu i greu incwm. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud nifer o gyhoeddiadau ynglyn ag ariannu sydd wedi rhoi peth sicrwydd ynglyn â sut y bydd y costau ychwanegol a cholli incwm yn gallu cael eu hadennill yn y flwyddyn ariannol bresennol. 

"Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi fod cyllideb yr hydref wedi ei gohirio ac yn ei dro, mae hynny’n effeithio ar gyllideb Llywodraeth Cymru. Ond, rydym yn disgwyl y bydd rhyw fath o Adolygiad o Wariant y DU ar ddyddiad i’w gyhoeddi. 

"Rydym yn wynebu heriau na welwyd erioed eu bath eleni ac mae dewisiadau effeithlonrwydd y Cyngor yn brin iawn ar ôl blynyddoedd o gyni ariannol." 

Mae’r pwysau costau wedi eu categoreiddio fel hyn: 

  • Penderfyniadau / cymeradwyaeth y blynyddoedd a fu gan gynnwys:
    •  Estyniad i gartref gofal Marleyfield;
    • Gostyngiad Person Sengl sy’n fudd un-tro am eleni’n unig.
  • Colli incwm - gostyngiad yn y galw sy’n effeithio ar lefelau incwm a gyllidwyd ar draws amrediad o feysydd gwasanaeth, gan gynnwys:
    • Gostyngiad mewn gwerthiant ynni (yn ddibynnol ar argaeledd y nwy a gynhyrchir gan ddau safle tirlenwi wedi eu cau);
    • Marchnadoedd - mae gweithgarwch wedi lleihau dros amser yn ogystal â nifer yr ymwelwyr yn gostwng o ganlyniad i sefyllfa COVID-19.
  • Mynegai deddfwriaethol/di-osgoi – nad oes gennym reolaeth uniongyrchol drosto, gan gynnwys:
    • Yr angen i ateb gofynion statudol ar gyfer asesiadau risg i holl gyflenwadau dwr Sir y Fflint;
    • Ardoll Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru y bydd y Cyngor angen cyfrannu codiad yn ôl chwyddiant iddo.
  • Materion sy’n gofyn am ddatrysiad cenedlaethol, gan gynnwys:
    • Mae incwm o Dreth y Cyngor lawer yn is na’r cyfartaledd ac mae cynnydd sylweddol wedi bod yn y galw am y Cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor;
  • Dyfarniadau Cyflog: effaith y cynnydd yn y dyfarniadau cyflog y cytunwyd arnynt yn genedlaethol ar gyfer athrawon, a chyflog nad yw ar gyfer athrawon, nad ydynt yn hysbys eto.
  • Ystyriaethau Strategol, gan gynnwys:
    •  Cludiant ôl 16 – newid polisi oherwydd newidiadau mewn rheoliadau sy’n golygu na fydd unrhyw incwm posibl a ragwelwyd o gludiant ôl 16 bellach yn digwydd, gan ei fod yn parhau i gael ei gynnig am ddim. 

Gellir rhannu’r datrysiadau sydd ar gael i’r Cyngor i ariannu’r pwysau costau yn dri phrif faes:

  • Arian gan y llywodraeth
  • Trethi ac Incwm Lleol
  • Trawsnewid ac arbedion effeithlonrwydd i wasanaethau 

Meddai Prif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint, Colin Everett: 

"Mae ein strategaeth ariannu yn ddibynnol iawn ar ddigon o arian cenedlaethol i gynghorau lleol. Rydym yn derbyn ein symiau mwyaf o arian gan Lywodraeth Cymru.

"Er mwyn i’r Cyngor fod yn gynaliadwy, bydd angen i drefniadau’r dyfodol adlewyrchu pwysau ariannol cenedlaethol sydd y tu hwnt i’n rheolaeth ni, er enghraifft, dyfarniadau cyflog. 

"Nid oes unrhyw ddewisiadau cyllideb wedi eu cyflwyno ar hyn o bryd. Nid oes unrhyw arbedion effeithlonrwydd o raddfa yn weddill ac nid yw’r sefyllfa wedi newid es i ni bennu’r gyllideb flynyddol ddiwethaf. Mae’r angen am wasanaethau diogel a chydnerth wedi ei amlygu yn yr ymateb i’r sefyllfa argyfyngus."