Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Dileu Ardrethi Busnes 

Published: 14/10/2020

 

Bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint roi cymeradwyaeth i ddileu dwy ddyled ardrethi busnes pan fydd yn cyfarfod ddydd Mawrth 20 Hydref.

Rhaid i’r Cabinet roi cymeradwyaeth i ddileu unrhyw ddyledion gwerth dros £25,000.

Ar hyn o bryd, mae gennym ddyledion gan ddau gwmni sy’n cael eu hystyried yn rhai na ellir eu hadennill gan nad ydynt yn masnachu bellach. O ganlyniad, nid oes unrhyw asedau ac nid oes bellach modd o adennill y dyledion yn llwyddiannus ac mae angen eu dileu, gwerth cyfanswm o £55,321. Y sefydliadau yw:

• TTS Sales Cyf £25,648

• G & A Automotive Cyf £29,673

Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Reoli Corfforaethol ac Asedau:

“Er gwaethaf ymdrechion niferus i adennill y dyledion hyn a llwyddiannau bach gyda TTS Sales i adennill rhywfaint o’r arian, nid oes unrhyw beth y gall y Cyngor ei wneud i adennill y symiau sy'n weddill gan y cwmnïau hyn sydd wedi darfod ac felly, yr unig ffordd ymlaen yw dileu’r dyledion hyn.”