Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adnewyddu Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus

Published: 14/10/2020

Pan fyddan nhw’n cyfarfod ar 20 Hydref, gofynnir i aelodau’r Cabinet gymeradwyo estyniad i ddau Orchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (y Gorchymyn) ar gyfer rheoli cwn ac ar gyfer rheoli alcohol.

Yn gynharach eleni, cytunodd y Cabinet i ymgynghori ar y Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus hyn i gael barn ar eu hymestyn am dair blynedd arall pan fyddant yn dod i ben yn ddiweddarach y mis hwn.

Bwriad Gorchmynion fel hyn yw atal ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn mannau cyhoeddus.   Ni allant fod ar waith am gyfnod o fwy na thair blynedd, ond mae posib’ eu hymestyn neu eu hamrywio os yw gofynion cyfreithiol yn cael eu bodloni.

Cynhaliwyd yr ymgynghoriadau rhwng 3 Awst a 4 Medi.  Dangosodd canlyniadau’r ymgynghoriad ar reoli cwn fod mwyafrif y cyfranogwyr yn cefnogi parhad y Gorchymyn - cawsom 66 o ymatebion, gyda 64% ohonynt yn berchnogion cwn.  Mae rhai eithriadau i’r Gorchymyn hwn, er enghraifft cwn tywys.

Unwaith eto, roedd canlyniadau ymgynghoriad y Gorchymyn rheoli alcohol yn wirioneddol cefnogi estyniad y Gorchymyn hwn - cawsom 34 o ymatebion.

Dywedodd Aelod Cabinet Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Chris Bithell:

“Yn dilyn adolygiad o holl adborth yr ymgynghoriad, argymhellir adnewyddu'r ddau Orchymyn am gyfnod arall o dair blynedd, gan ddechrau o fis Hydref 2020, gyda'r cyfyngiadau presennol yn parhau."

Meddai Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas:

“Rydym yn argymell bod Gwasanaethau Stryd yn cynnal adolygiad llawn o arwyddion cyfredol ar gyfer y Gorchymyn rheoli cwn, ym mhob lleoliad, i sicrhau eu bod yn gyflawn ac yn gywir.  Lle bydd angen ei ddiweddaru, byddwn yn gwneud hyn cyn gynted â phosibl ac ni chymerir unrhyw gamau gorfodi nes bod yr arwyddion newydd yn eu lle.”