Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adroddiad Perfformiad Blynyddol

Published: 14/10/2020

Bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gymeradwyo Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2019/20 yn ei gyfarfod ddydd Mawrth, 20 Hydref. 

Yn dilyn hynny, bydd yn mynd gerbron y Cyngor llawn i’w gymeradwyo. 

Mae’r adroddiad yn adlewyrchu'r cynnydd da a wnaed ar y cyfan yn erbyn blaenoriaethau a nodwyd yng Nghynllun y Cyngor 2019/20, ac mae'n crynhoi cyflawniadau'r sefydliad. Mae Cyngor Sir y Fflint yn parhau i gael ei redeg yn dda a pherfformio'n dda. Mae ein perfformiad da cyson wedi cael ei gydnabod yn lleol ac yn genedlaethol. 

Roedd y perfformiad yn erbyn mesurau Cynllun y Cyngor yn gadarnhaol, gydag 88% o’r gweithgareddau allweddol cytunedig yn gwneud cynnydd da a 91% yn debygol o gyflawni’r canlyniad dymunol. Yn ogystal â hyn, mae 78% o'r dangosyddion perfformiad wedi'u diwallu neu wedi rhagori ar y targed ar gyfer y flwyddyn, ac mae 59% wedi dangos gwelliant neu wedi cynnal yr un lefel o berfformiad. 

Mae'r risgiau’n cael eu rheoli'n llwyddiannus gyda'r mwyafrif wedi'u hasesu fel cymedrol (66%) neu fach/ansylweddol (19%); roedd 15% o’r risgiau yn dangos statws risg uchel ar ddiwedd y flwyddyn, yn sgil diffyg adnoddau ariannol yn bennaf.

Mae rhai o’n llwyddiannau i’w gweld isod:

  •  Manteisiodd 3385 o blant ar y cynnig Gofal Plant rhwng Ebrill 2019 a Mawrth 2020.
  •  Cwblhawyd 116 o dai Cyngor drwy’r Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP).
  •  Cynorthwywyd 94 o gyfranogwyr i ennill cyflogaeth drwy’r gwasanaeth Cymunedau am Waith a Mwy.
  •  Darparwyd 42 o sesiynau cymorth i fusnesau i gefnogi Mentrau Cymdeithasol.
  •  Cwblhawyd y gwaith adeiladu ar gyfer prosiectau ysgol yn Ysgol Uwchradd Cei Connah ac Ysgol Penyffordd.
  •  Cynigiwyd addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth i 72% o bobl ifanc 16 – 18 oed yn y system cyfiawnder ieuenctid.
  •  Cyfradd ailgylchu o 82.1% ar draws bob un o safleoedd y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref.
  •  Mae Sir y Fflint yn cyflawni targedau rheoli gwastraff cyn yr amserlenni statudol.
  •  Mae Parc Adfer wedi dechrau derbyn gwastraff rhanbarthol a lleol nad oes modd eu hailgylchu.
  •   Llwyddodd 98.1% o sefydliadau bwyd i gydymffurfio â’r safonau hylendid bwyd
  •  Mae gwaith atgyweirio Canolfan Gymunedol Treffynnon bellach wedi’i gwblhau. 

Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint, Colin Everett:

"Mae'r Cyngor yn gwneud cynnydd da mewn meysydd a nodwyd yn flaenoriaethau. Er gwaethaf pwysau ariannol mawr a llai o gyllid cenedlaethol, mae Sir y Fflint wedi bod yn greadigol ac wedi llwyddo i gyflawni ei nodau am flwyddyn arall."

Meddai Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Ian Roberts:

"Mae'r Cyngor wedi profi unwaith eto ei fod yn sefydliad sy'n perfformio'n dda, gan osod targedau a chyflawni'r blaenoriaethau sydd wedi’u nodi yng Nghynllun y Cyngor."

Mae’n rhaid cyhoeddi’r Adroddiad erbyn 31 Hydref, ac yng nghyfarfod y Cyngor Sir ar 20 Hydref, bydd gofyn i’r cynghorwyr gymeradwyo’r adroddiad i gael ei gyhoeddi.